Datganoli a'r Cyfansoddiad, Economi a Masnach

Ail-greu polisi rhanbarthol ym Mhrydain ar ôl Brexit

Gydag agweddau gwahanol iawn at bolisi rhanbarthol rhwng Brwsel a Llundain, mae’r Athro Kevin Morgan yn edrych ar ddyfodol polisi rhanbarthol i’r DU ar ôl Brexit. Mewn blog dwy ran, mae’n dadlau pan fydd polisi rhanbarthol yr UE yn dod i ben yn 2020, bod cyfle go iawn i adeiladu ar nodweddion gorau polisi’r Undeb Ewropeaidd ac osgoi’r nodweddion gwaethaf. Bydd cyfle i ail-greu polisi rhanbarthol ym Mhrydain sydd o leiaf mor hael â’r lefelau presennol o gymorth ac sy’n cefnogi’r holl ardaloedd yn y DU sy’n derbyn cymorth ar hyn o bryd.

Dyfeisiwyd polisi rhanbarthol ym Mhrydain

Prydain oedd y wlad gyntaf i ddiwydiannu. Roedd hefyd y wlad gyntaf i ddad-ddiwydiannu wrth i’w diwydiannau trwm – glo, dur, adeiladu llongau ac ati – fethu yn ystod y dirwasgiad rhwng y rhyfeloedd.

Er iddo gael ei gyflwyno’n rhy hwyr, crëwyd y polisi rhanbarthol cyntaf yn y byd ym 1934 gyda’r Ddeddf Ardaloedd Arbennig. Nod y polisi oedd ysgafnhau’r argyfwng economaidd-gymdeithasol ar yr ardaloedd dirwasgedig – yr ardaloedd lle’r oedd y diwydiannu mawr wedi casglu.

Ymhlith y pedair ardal ddirwasgedig a oedd yn derbyn cymorth yn y 1930au – De Cymru, Gogledd Ddwyrain Lloegr, Gorllewin Cumberland a Glannau Clud – dim ond De Cymru sydd yn dal ar y statws o dlodi heddiw. Mae hyn yn pwysleisio methiant llwyr wrth ddatblygu, ac yn ddarlun damniol o bolisi rhanbarthol ym Mhrydain ers dros 80 mlynedd. Yn y cylch presennol o bolisi rhanbarthol yr UE (2014-2020), caiff Gorllewin Cymru a’r Cymoedd eu nodi fel “rhanbarth llai datblygedig” yn y system dosbarthu rhanbarthau.

Cynnydd a chwymp polisi rhanbarthol ym Mhrydain

Mae polisi rhanbarthol wedi mynd drwy ddau brif gyfnod ers ei ddechrau yn y 1930au – cynnydd a chwymp polisi rhanbarthol Prydain, ac ail-ddechrau polisi rhanbarthol yr UE.

Mae gwersi gwerthfawr i’w dysgu o’r ddau gyfnod wrth i ni feddwl am sut i ail-greu polisi rhanbarthol ym Mhrydain ar ôl Brexit.

Roedd “oes aur” polisi rhanbarthol Prydain (yn y 30au hwyr hyd ganol y 70au) yn seiliedig ar fodel o dderbynyddion a rhoddwyr datblygiad rhanbarthol. Ardaloedd De-ddwyrain Lloegr a Chanolbarth Lloegr oedd y rhoddwyr, lle’r oedd tystysgrifau datblygiad diwydiannol yn rheoli’r twf (y ffon) a’r cymhellion ariannol (y foronen). Roedd hyn at ei gilydd yn perswadio busnesau i ehangu eu ffatrïoedd (ffatrïoedd cangen) yn yr hen Ardaloedd Arbennig i’r gogledd a’r gorllewin.

Bu i’r model derbynnydd-rhoddwr hwn fewnffrwydro pan ddechreuodd yr ardaloedd a oedd yn arfer ffynnu fel Gorllewin Canolbarth Lloegr, ddioddef yn dilyn trafferthion y diwydiant ceir.

Os tanseiliwyd y polisi rhanbarthol ar ôl y rhyfel gan ddirywiad economaidd, disodlwyd y cytundeb gwleidyddol a oedd wedi’i selio arno ar ôl y rhyfel gan Thatcheriaeth. Newidiodd hyn reolau’r gêm diriogaethol oherwydd newidiodd y polisi rhanbarthol o ailddosbarthu’r buddsoddiad rhwng ardaloedd, i hyrwyddo twf mewn ardaloedd. Roedd hyn yn ffurf o hunangynhaliaeth, sy’n bodoli hyd heddiw.

Cynnydd a chwymp polisi rhanbarthol ym Mhrydain

Roedd Prydain hefyd yn rhan o greu Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ym 1975, a luniwyd er mwyn bodloni pryderon yn y DU ynghylch faint o’r gyllideb oedd yn mynd i fyd amaeth.

Ond enillodd y polisi rhanbarthol Ewropeaidd ei blwyf ym 1988, pan gyflwynodd y Comisiwn Ewropeaidd bedair egwyddor allweddol ar gyfer ymyrraeth ranbarthol, sef:

  • crynhoad – pennu adnoddau ar amcanion allweddol
  • rhaglenni aml-flynyddol – cyflwyno cynllunio mwy hirdymor
  • partneriaeth – cynnwys awdurdodau lleol rhanbarthol a lleol
  • ychwanegedd – sicrhau bod arian y EU yn ychwanegu at (ac nid yn disodli) arian yr aelod-wladwriaethau

Ers i bolisi rhanbarthol yr UE ennill ei blwyf ym 1988, mae pum rhaglen aml-flynyddol wedi’u cynnal, gyda’r rhaglen bresennol yn rhedeg o 2014 hyd 2020.

Ac er bod gwahaniaethau rhwng pob rhaglen, mae pedair tuedd amlwg ynddynt.

Yn gyntaf, y duedd fwyaf dramatig ers 1988 yw arwyddocâd cynyddol ‘arloesedd’ fel blaenoriaeth. Yn rhaglen 1988-93, mae’r camau sy’n ymwneud ag arloesedd wedi cynyddu’n gyflym o 4% i 45% ar y rhaglen bresennol. Mae’r newid hwn wedi bod yn her fawr i ardaloedd llai datblygedig gan nad oes ganddynt yr ecosystemau rhanbarthol (sy’n cynnwys prifysgolion a chwmnïau) i ddenu buddsoddiad ar gyfer arloesedd er mwyn adeiladu ffyrdd newydd ac yn y blaen. Gall polisi rhanbarthol helpu i feithrin yr economi wybodaeth yn y tymor hir, ond beth yw ei effaith ar swyddi a lles yn y tymor byr?

Yn ail, tuedd allweddol arall yw’r pwyslais cynyddol ar ganlyniadau. Hyd nes y rhaglen bresennol, roedd y Comisiwn Ewropeaidd yn poeni’n bennaf am yr hyn a elwir yn “gapsiti amsugnol” – gallu’r adnoddau rhanbarthol i wario arian mewn modd sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau. Bellach, ceir pwyslais ar ganlyniadau, sy’n rhoi pwyslais ar ganlyniadau’r polisi yn hytrach na phroses y polisi ei hun. Fodd bynnag, er mwyn bod yn effeithiol, mae angen bod gan bolisi rhanbarthol sy’n seiliedig ar ganlyniadau, ddangosyddion gwell a chryfach yn ogystal ag amodoldeb mwy credadwy. Mae angen bod ganddynt hefyd system monitro a gwerthuso sy’n rhoi’r un pwyslais ar greadigrwydd a chydymffurfio.  Er bod polisi rhanbarthol yr UE yn anelu at hyrwyddo arbrofi a dysgu, caiff y nodweddion hanfodol pwysig hyn eu boddi gan ddiwylliant sy’n cefnogi cydymffurfio yn fwy na chreadigrwydd.

Yn drydydd, mae’r pwyslais ar ganlyniadau wedi ysgogi trafodaeth am amcanion polisi rhanbarthol. Lleihau lefelau diweithdra a hwyluso ailadfer diwydiannau oedd yn cael y prif sylw mewn polisi rhanbarthol ar un adeg. Ond ers yr argyfwng economaidd yn 2008, mae’r Comisiwn Economaidd yn cyfaddef bod angen i bolisi rhanbarthol fynd i’r afael â mwy o wahaniaethau – yn enwedig o ran ansawdd economaidd, lles cymdeithasol a gallu’r llywodraeth i lywodraethu. Mae’r rhain yn amcanion sy’n cael eu hymgorffori yn yr ymrwymiad presennol i weld twf “call, cynaliadwy a chynhwysol.”

Yn olaf, mae’r ddadl am ddatblygiad rhanbarthol wedi gweld tro sefydliadol sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn oherwydd bod mwy o dystiolaeth yn dangos bod gan ansawdd y llywodraethau a safon y sefydliadau yn y sector cyhoeddus rôl flaenllaw wrth faethu datblygiad.

Pan ddaw polisi rhanbarthol yr UE i ben yn 2020, bydd angen i bolisi rhanbarthol newydd Prydain fynd i’r afael â’r holl faterion hyn – sy’n cydbwyso amcanion arloesedd a lles, yn pwysleisio canlyniadau’r polisïau ac yn dwyn sefydliadau i gyfrif am eu perfformiad.

Prydain ar ôl Brexit: Cyfleoedd a Bygythiadau

O safbwynt polisi rhanbarthol, mae Brexit yn codi mater sydd llawer pwysicach na’r gweddill, sef: a fydd Llundain yn rhoi’r un lefel o gymorth ar ôl 2020 a gynigir gan Frwsel ar hyn o bryd?  Mae angen bod yr holl ardaloedd sy’n derbyn cymorth yn y DU, wneud ymdrech ar y cyd i fynnu eu bod yn creu polisi rhanbarthol sy’n cynnig yr un lefel o gymorth a gynigir ar hyn o bryd.

Yr hyn sy’n poeni pobl yn ardaloedd tlotach y DU yw bod gan Frwsel a Llundain agweddau gwahanol iawn at bolisi rhanbarthol – mae Brwsel yn ymrwymo i “bolisi cydlyniad,” ond mae Llywodraethau Ceidwadol yn fwy tebygol o fantoli’r gyllideb a chrebachu’r wladwriaeth drwy “trydedd senedd o lymder,” fel y nodwyd gan Sefydliad yr Astudiaethau Cyllid yn ddiweddar.

Os bydd llymder yn parhau i fod yn rhan ganolog o bolisïau’r Llywodraeth Geidwadol nesaf (fel sy’n debygol), yr ardaloedd hynny sy’n manteisio ar y lefelau uchel o gymorth rhanbarthol yn Ewrop fydd yn wynebu’r bygythiad mwyaf – sef Cymru a De-orllewin Lloegr yn bennaf. Dyma lle mae’r ardaloedd llai datblygedig fel Gorllewin Cymru, y Cymoedd, Cernyw ac Ynysoedd Sili (gweler Ffigwr 1).

ERDF_ESF_Graph

 

 Ffynhonnell: SPERI (Economi Wleidyddol Prydain, Briff Rhif 24)

Nid yw’n anochel bod dyfodol anodd o’n blaenau. Mae Brexit yn cynnig cyfle gwych i ail-greu polisi rhanbarthol ym Mhrydain gan adeiladu ar nodweddion gorau polisi’r Undeb Ewropeaidd ac osgoi’r nodweddion gwaethaf. Mae hyn yn golygu y bydd y polisi yn osgoi blaenoriaethau sy’n rhy gaeth, y gwahaniaethau anhyblyg sydd rhwng ardaloedd a diwylliant o archwilio sy’n lladd ar greadigrwydd oherwydd bod angen cydymffurfio.

Yn y blog nesaf, bydd yr Athro Kevin Morgan yn edrych ar y bygythiadau a’r cyfleoedd sydd i bolisi rhanbarthol ar ôl Brexit mewn mwy o fanylder. Bydd yn asesu’r goblygiadau i Gymru sef y wlad sydd fwyaf ar ei cholled oherwydd cyfuniad gwenwynig y “trydedd senedd o lymder” a “Brexit Caled”. 

Mae Kevin Morgan yn Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd, lle mae hefyd yn Ddeon Ymgysylltu. Ar hyn o bryd mae’n aelod o ‘Mirror Group’ y Comisiwn Ewropeaidd o gynghorwyr arbennig ar Arbenigaeth Glyfar.   

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *