Cymunedau a Diwylliant

Heb ymyrraeth Ewropeaidd, byddai cydraddoldeb i bobl anabl yn ddim ond breuddwyd ym Mhrydain

Mae’r Athro Paul Chaney yn mynnu bod deddfwriaeth Ewropeaidd wedi bod yn sbardun allweddol ar gyfer cydraddoldeb i bobl anabl ac eraill â nodweddion gwarchodedig yn y DU. Dadleua yn y dyfodol y bydd angen bod yn hynod ofalus i sicrhau na fydd effaith negyddol ar hawliau a diogelwch pobl anabl wrth i’r DU adael yr UE a’r llywodraeth Geidwadol fwrw ymlaen i ddisodli’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol â bil hawliau domestig.

Mae cynrychiolaeth pobl anabl mewn llywodraeth yn bwysicach nag erioed. Yn 2014, dywedodd 19% o breswylwyr Prydain eu bod yn anabl. Mae gan Brydain boblogaeth sy’n heneiddio hefyd, ac mae 42% o oedolion o oedran pensiwn y wladwriaeth – 5m o bobl i gyd – yn byw gydag anableddau.

Cyn refferendwm yr UE, roedd pryderon di-rif y byddai’r cyfreithiau sydd mewn grym i helpu a diogelu bywydau pobl anabl yn cael eu diystyru ac y byddai datblygiadau yn y dyfodol yn cael eu hatal. Nid yw effaith Brexit yn amlwg eto, ond mae fy ymchwil i wedi dangos un ffaith sy’n peri cryn bryder: mae’r senedd, a hynny ers cryn amser, yn dangos ffafriaeth i bobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn yn rhywbeth sefydliadol, a heb gymorth yr UE, gallai sefyllfa pobl anabl droi’n dywyll ar y naw.

Blaenoriaeth isel

Hyd yn oed ar y camau cyntaf o ddatblygu polisi a chyfraith, mae anabledd yn flaenoriaeth isel iawn. Wrth edrych ar gynigion cynnar-yn-y-dydd (EDMau) – sy’n caniatáu i ASau leisio eu barn ar faterion penodol heb fod disgwyl iddynt gytuno â’u pleidiau – mae anabledd yn llusgo ar ôl rhyw ac oedran o ran y nodweddion gwarchodedig sy’n cael sylw gan ddeddfwyr.

Mae’r cynigion hyn yn rhoi cipolwg da ar flaenoriaethau ASau. Er enghraifft, yn 2009, mynnodd Chris Ruane, cyn-AS ar gyfer Dyffryn Clwyd, “fod y tŷ hwn yn talu sylw i’r ffaith mai … clefyd y galon, diabetes, strôc a chlefyd yr arennau yw’r prif achos o anabledd yn y DU … ac rwy’n galw ar y llywodraeth i weithio gyda’r sector gwirfoddol … i sicrhau bod y gofal gorau ar gael i’r bobl yr effeithir arnynt.”

Er y bu rhywfaint o gynnydd yn nifer yr EDMau a gynigiwyd er budd “pobl anabl”, mae’r gyfradd newid wedi bod yn araf. Wrth gymharu nifer yr EDMau sy’n ymwneud ag anabledd/pobl anabl yn senedd 1992-97 a senedd 2005-10, mae’r twf yn eithaf dibwys – dim ond 3.5 pwynt canrannol.

Mae’n amlwg o’r cynigion hyn yn unig nad yw materion sy’n ymwneud ag anabledd yn flaenoriaeth polisi brif ffrwd i’r rhan fwyaf o ASau. Er bod gan bob etholaeth nifer sylweddol o bobl anabl, cyflwynodd llai na thraean o ASau EDM yn ymwneud yn benodol ag anabledd rhwng 1990 a 2012.

Ceir hefyd wahaniaethau mawr yn record pob plaid wleidyddol o ran cyflwyno EDMau sy’n ymwneud ag anabledd/pobl anabl. Cafodd bron i ddwy ran o dair o’r cyfanswm a gynigiwyd rhwng 1990 a 2012 eu cyflwyno gan aelodau Llafur y meinciau cefn. Cyflwynodd ASau y Democratiaid Rhyddfrydol ychydig yn llai na chwarter, tra bod ASau Ceidwadol wedi cyflwyno llai na 10%. Cafodd y gweddill eu cyflwyno gan “eraill” fel y Scottish National Party a Phlaid Cymru.

Gan edrych ar sut roedd y cynigion hyn wedi’u fframio, roedd y rhan fwyaf yn ymwneud â sicrhau lefel dderbyniol o fyw i bobl anabl, mynd i’r afael â gwahaniaethu, a chodi ymwybyddiaeth o hawliau pobl anabl, yn y drefn honno. Wrth rannu’r rhain yn ôl maes polisi, y pynciau arweiniol oedd trethiant, pensiynau a nawdd cymdeithasol (ychydig dros chwarter o’r cyfanswm); iechyd (ychydig dros bumed); trafnidiaeth; cyflogaeth; ac addysg. Mae’r prif bwnc yma yn dangos yr ymyleiddio economaidd a’r tlodi y mae pobl anabl yn eu profi. Mae’r lleill yn dangos bod y problemau cysylltiedig y mae pobl anabl yn eu profi yn cwmpasu pob maes o les cymdeithasol.

Ffafriaeth sefydliadol i bobl nad ydynt yn anabl

Mae’r ymchwil hwn yn fwy nag ystadegau. Mae’n cadarnhau hanes clir o ymyleiddio a methiannau cynrychioliadol sy’n dyddio’n ôl cyn belled â’r Ail Ryfel Byd. Tan 1970, dim ond pedair prif gyfraith oedd mewn grym oedd yn ymwneud ag anabledd. Parhaodd yr ymyleiddio drwy gydol y 1990au pan basiwyd nifer fechan o statudau – ond rhaid nodi bod y rhain yn gerrig milltir deddfwriaethol, fel Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, er enghraifft.

Ar y cyfan, nid yw cynrychiolaeth pobl anabl yn fater prif ffrwd wrth ddeddfu yn San Steffan, a hynny o bell ffordd. Yn wir, teg dweud y byddai cydraddoldeb i bobl anabl ar ei hôl hi o hyd heb ymyrraeth Ewropeaidd gan yr UE a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (a gymeradwywyd gan y DU yn 2009) a Chyfarwyddebau’r CE ar gydraddoldeb yn ei gwneud yn ofynnol i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl wrth arfer swyddogaethau cyhoeddus – gan gynnwys cynrychiolaeth seneddol, polisi a deddfu. Yn y cyd-destun hwn, dangosir bod Brexit yn ddatblygiad hollol negyddol i bobl anabl.

Mae deddfwriaeth Ewropeaidd wedi bod yn sbardun allweddol ar gyfer cydraddoldeb i bobl anabl ac eraill â nodweddion gwarchodedig yn y DU. Yn y dyfodol bydd angen bod yn hynod ofalus i sicrhau na fydd effaith negyddol ar hawliau a diogelwch pobl anabl wrth i’r DU adael yr UE a’r llywodraeth Geidwadol fwrw ymlaen i ddisodli’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol â bil hawliau domestig.

Mae ymgyrchwyr dros hawliau pobl anabl, sydd â llais cryf ar hyn o bryd, yn wynebu heriau yn y dyfodol.  Yn y cyfamser, bydd angen i ASau sylweddoli bod rhaid diogelu’r hawliau hyn. Ni all gwahaniaethu barhau.

Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf yn The Conversation.

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Mae Paul Chaney yn Athro Polisi a Gwleidyddiaeth yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac yn Gyd-Gyfarwyddwr ar Ganolfan Ymchwil Genedlaethol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD). Mae wedi ysgrifennu a golygu dros gant o lyfrau, papurau ac adroddiadau ar gydraddoldeb, hawliau dynol, polisi cymdeithasol a chyhoeddus, astudiaethau deddfwriaethol, cynrychiolaeth wleidyddol a gwleidyddiaeth diriogaethol. Mae wedi gweithio fel ymgynghorydd allanol i’r llywodraeth, gan gynnwys fel aelod o Adran Masnach a Diwydiant Llywodraeth y DU a Thasglu a Grŵp Llywio’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd hefyd yn Ymgynghorydd i Swyddfa Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a’r Adolygiad Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Adran 75.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *