Arloesedd

Adeiladu rhwydweithiau arloesedd yng Nghymru sy’n gweithio i bawb ar ôl Brexit

Mae gan ymadawiad y DU o’r UE y potensial i drawsnewid holl gyd-destun polisi arloesedd, gan newid natur cysylltiadau sy’n bodoli eisoes ac agor cyfleoedd newydd. Yn y tirlun symudol hwn, sut gall Cymru adeiladu’r rhwydweithiau sydd eu hangen er mwyn i arloesedd ffynnu? Dr Adrian Healy sy’n cynnig rhai syniadau. 

Mae arloesedd wedi siapio’r byd rydym ni’n gallu ei weld a’i brofi heddiw yn sylfaenol.

Mae ei ganlyniadau i’w gweld o’n cwmpas ym mhobman; o’r ffôn clyfar yn eich poced, drwy’r gwasanaethau bancio symudol mae’n eu caniatáu, o’r cerbydau sy’n cludo nwyddau a phobl, i sefydliadau fel y GIG.

Boed yn syniadau ac yn ffyrdd newydd o wneud pethau neu nwyddau a gwasanaethau newydd a gwell, arloesedd yw sylfaen ein heconomi a’n cymdeithas.

Gan gydnabod hyn, mae polisi cyhoeddus yn gynyddol wedi pwysleisio pwysigrwydd ysgogi arloesedd.

Rydym ni wedi dod o hyd i ffyrdd newydd i gefnogi cynhyrchu syniadau newydd, trosi’r rhain yn gynhyrchion, prosesau a gwasanaethau gwell, a cheisio harneisio’r twf economaidd y dylai arloesedd llwyddiannus ei ryddhau. Drwy wneud hyn rydym ni’n raddol wedi dod i ddeall y broses arloesi’n well, gan ganiatáu i bolisi cyhoeddus ei hun arloesi a datblygu.

Yng Nghymru, rydym ni’n raddol wedi dechrau gwerthfawrogi pwysigrwydd hyrwyddo economi sy’n seiliedig ar arloesedd.  Mae hyn yn talu ar ei ganfed.

Yn gyffredinol, mae cwmnïau yng Nghymru bellach yn tueddu i adlewyrchu cyfartaledd y DU o ran eu lefel o weithgaredd arloesedd, er eu bod yn tueddu i wneud hynny gyda llai o weithwyr cymwys a lefelau is o ymchwil a datblygu mewnol. Mae cwmnïau Cymru hefyd yn tueddu i groesawu cydweithio gydag eraill i ddatblygu syniadau newydd, gan weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid fel prifysgolion, cyflenwyr a chwsmeriaid.  Yn ddiddorol, mae data o Arolwg Arloesedd y DU a gyhoeddwyd yn gynt eleni’n awgrymu bod cwmnïau o Gymru’n fwy tebygol yn gyson i fod yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol na gyda’u cystadleuwyr yn y DU.

Mae’r bydolwg rhyngwladol hwn yn codi cwestiynau pwysig ar gyfer y dyfodol.

Un o beryglon posibl Brexit yw’r risg y bydd llwybrau cydweithio gyda phartneriaid posibl yn yr UE yn cael eu cau.

Os bydd cwmnïau a phrifysgolion Cymru’n colli’r gallu i fanteisio ar y rhaglenni hynny sy’n cefnogi partneriaethau arloesedd, sydd bellach yn dechrau dwyn ffrwyth, yna bydd angen i ni ddod o hyd i ffyrdd eraill i ddod â gwybodaeth newydd i Gymru.

Y ffordd orau i wybodaeth deithio yw drwy gysylltiadau personol, felly mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu rhwydweithiau rhwng ein cwmnïau a’n prifysgolion gyda’u cymheiriaid yn yr UE, yn ogystal ag edrych ar rannau eraill o’r byd. Rhaid i ni ochel rhag y risg y bydd cwmnïau a phrifysgolion o Gymru’n cael eu hanwybyddu a’u cau allan o rwydweithiau, a hynny dim ond oherwydd yr hinsawdd wleidyddol ac ariannol newidiol.

Yn yr un modd, rhaid i ni gymryd y cyfle hwn i adfyfyrio ar yr uchelgais sy’n sail i’n cefnogaeth i arloesedd.

Er gwaethaf y llwyddiannau sydd i’w gweld o fentrau sy’n cefnogi arloesedd, mae ymdeimlad yn parhau bod y manteision hyn yn methu â chyrraedd pawb yng Nghymru.

Mae twf economaidd yn parhau’n araf ac yn anghyson ei ddosbarthiad. Er ei bod yn demtasiwn ceisio hybu twf drwy fentrau sy’n ffafrio gwyddoniaeth ac arloesedd technolegol, yn aml y gweithgareddau mwy cyffredin sy’n cael yr effaith fwyaf ar gyfleoedd cyflogaeth lleol yn gyffredinol.

Mae llawer o’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, a fesurir gan Twf Cyflym 50 er enghraifft, wedi tyfu drwy fabwysiadu arferion busnes newydd a modelau busnes newydd neu drwy dechnolegau sy’n gwella’n barhaus, gan gyfuno’r rhain mewn ffyrdd newydd a datblygu cymwysiadau newydd – math o arloesedd a ddisgrifir yn aml fel gwneud, defnyddio a rhyngweithio.

Gall cefnogi cydweithio a rhyngweithio gryfhau’r ecosystem ar gyfer arloesedd drwy annog cwmnïau i fabwysiadu arferion newydd a chryfhau cyfleusterau ac arbenigedd allweddol y gellir eu defnyddio gan ymchwilwyr a busnesau.

Mae llawer o hyn yn digwydd eisoes, gydag arwyddion o lwyddiant yn dodi ‘r amlwg. Gellir gyrru’r broses hon drwy sefydlu corff arloesedd cenedlaethol i hyrwyddo datblygiad technolegau newydd ac annog trawsnewidiad ein diwydiannau presennol.

Drwy wneud hyn mae’n bryd hefyd meddwl mwy am y buddion cymdeithasol y gellir eu gwireddu drwy annog arloesedd, symudiad a allai gyd-fynd yn dda gyda’r uchelgais a nodir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol.  Gallai hyn gynnwys annog ein cynghorau a’n Byrddau Iechyd i wneud mwy i gymryd rhan mewn prosiectau arloesedd a’u harwain, â’r nod o hyrwyddo canlyniadau cymdeithasol yn ogystal â rhai economaidd.

Does dim amheuaeth y bydd Brexit yn cyflwyno llu o heriau dros y blynyddoedd nesaf, fodd bynnag mae hefyd yn gyfle i benderfynu ar y dyfodol rydym ni am ei gofleidio a ffurfio ein polisïau’n unol â hynny.  Un rhan o’r broses hon fydd cryfhau ein capasiti ar gyfer arloesedd drwy annog rhwydweithiau newydd. Mae arloesedd wastad wedi bod yn broses gymdeithasol llawn cymaint ag un dechnolegol.  Bellach mae cyfle gennym i wneud yn siŵr ei bod yn broses gymdeithasol hefyd.

Mae Dr Adrian Healy yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd

Ymddangosodd fersiwn o’r erthygl hon gyntaf ar Click on Wales. 

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

 

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *