Datganoli a'r Cyfansoddiad

Y Bil Diddymu Mawr a Chymru: Darllen Rhwng y Llinellau

Notary pen lying on testament. Notary public working accesories
Notary pen lying on testament. Notary public working accesories

Ddiwedd mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei phapur gwyn a oedd yn nodi sut bydd dod o hyd i ateb i rai materion cyfansoddiadol sylfaenol ôl-Brexit drwyr Bil Diddymu Mawr. Ei nod yw creu sefydlogrwydd ac eglurder drwy sicrhau y bydd y gyfraith ar y diwrnod ar ôl Brexit yr un fath â’r diwrnod cynt. Fodd bynnag, mae Dr Huw Pritchard a Manon George yn esbonio sut mae angen darllen llawer mwy rhwng llinellau manylion pwysig, yn enwedig ynghylch rôl y sefydliadau datganoledig. 

Bydd y Bil yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac yn troi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU er mwyn osgoi unrhyw fylchau ar ôl Brexit. Bydd hefyd yn sefydlu pwerau dirprwyedig fel y gellir gwneud is-ddeddfwriaeth i ddiwygio’r cyfreithiau a’r polisïau sy’n mynd yn ddiwerth neu sydd angen eu newid ar ôl gadael yr UE.

Fodd bynnag, mae symlrwydd y cynllun yn cuddio cymhlethdod cyfraith yr UE o fewn y DU.

Amcangyfrifir bod tua 19,000 o weithredoedd deddfwriaethol yr UE mewn grym. Mae rhai’n ddeddfau sy’n uniongyrchol berthnasol i’r UE ac mae eraill wedi’u rhoi ar waith yn y DU drwy offerynnau statudol, gan gynnwys rhai a roddwyd ar waith ar wahân gan y gweinyddiaethau datganoledig.

Ar ôl Brexit, bydd angen ‘cywiro’ rhai o ddarpariaethau’r UE oherwydd efallai na fyddant yn angenrheidiol neu’n gweithredu yn yr un modd y tu allan i’r UE. Bwriad llywodraeth y DU yw cywiro’r rhain drwy bwerau dirprwyedig eang fel bod ganddi’r hyblygrwydd i ddiwygio’r ddeddfwriaeth sylfaenol a’r is-ddeddfwriaeth bresennol, a chyfreithiau sy’n uniongyrchol berthnasol i’r UE a gaiff eu troi’n Gyfraith y DU, wrth i’r trafodaethau ddatblygu.

Enghraifft amlwg o ddarpariaeth y bydd angen ei chywiro yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’n ei gwneud hi’n ofynnol i ddeddfau Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau’r UE, gofyniad a fydd yn ddiangen ar ôl tynnu allan o’r UE. Mae llywodraeth y DU wedi nodi y byddai cyfeiriadau o’r fath yn cael eu cywiro gan lywodraeth y DU ei hun, ond nid yw’n cyfeirio’n uniongyrchol at y ddeddfwriaeth datganoli ar y pwynt hwn.

Byddai’n annymunol i ganiatáu i lywodraeth y DU, yn hytrach na Senedd y DU, ddiwygio cymhwysedd y deddfwrfeydd datganoledig. Fodd bynnag, os gwneir y newid drwy ddeddfwriaeth sylfaenol yna mae modd dadlau y bydd angen cydsyniad deddfwriaethol y seneddau datganoledig. Byddai gwneud newidiadau o’r fath drwy is-ddeddfwriaeth yn osgoi’r gofyniad hwnnw.

I gymhlethu pethau, mae Cymru ar hyn o bryd rhwng dwy oruchwyliaeth ddatganoli – mae Deddf Cymru 2017 yn cyflwyno model cadw pwerau a disgwylir iddynt ddod i rym ym mis Ebrill 2018, felly bydd angen diwygio’r Ddeddf hon hefyd.

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig bod y Ddeddf Diddymu Mawr yn rhoi pŵer i Weinidogion ddiwygio deddfwriaeth ddatganoledig. Mae hyn yn rhannol yn unol ag addewid Theresa May na fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu dileu. Gall hyn fod yn arwyddocaol mewn meysydd fel amaethyddiaeth, yr amgylchedd a thrafnidiaeth lle mae gan y gweinyddiaethau datganoledig gyfrifoldebau uniongyrchol dros weithredu cyfraith yr UE yn ddomestig. Fodd bynnag, nid yw’n gwbl glir beth byddai cwmpas y pŵer hwn yn ei olygu i Gymru.

Er enghraifft, gall ‘deddfwriaeth ddatganoledig’ awgrymu y gall Gweinidogion Cymru ddiwygio Deddfau y maen nhw neu’r Cynulliad Cenedlaethol, wedi eu pasio. Fodd bynnag, ceir hefyd gyfreithiau’r UE a wnaed gan lywodraeth a senedd y DU mewn meysydd datganoledig. Nid yw’n glir a fydd Gweinidogion Cymru, neu’r Cynulliad Cenedlaethol, yn gallu dylanwadu ar y broses o ddiwygio’r darpariaethau hynny.

Mae’r defnydd helaeth o ddeddfwriaeth ddirprwyedig a pha mor gyflym y bydd angen iddi gael ei throsglwyddo hefyd yn gwneud i rywun amau faint o graffu seneddol fydd. Hefyd nid oes unrhyw arwydd y bydd unrhyw rôl i’r Cynulliad Cenedlaethol o ran craffu ar sut caiff deddfau’r UE eu newid. Er enghraifft, os rhoddir pwerau i Weinidogion Cymru ddiwygio llawer iawn o is-ddeddfwriaeth, bydd yn cael effaith o ganlyniad ar amserlen y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwaith craffu.

Mae’r Papur Gwyn yn awgrymu y bydd angen rhagor o ddeddfwriaeth sylfaenol ar ôl y Bil Diddymu Mawr megis Bil Tollau a Bil Mewnfudo, lle byddai’r senedd yn cael cymeradwyo pasio’r ddeddfwriaeth hon yn uniongyrchol. Nid oes sôn fodd bynnag, o ran a fyddai cynnig cydsyniad deddfwriaethol gan y seneddau datganoledig yn ofynnol yn rhan o’r broses honno os bydd y Biliau hynny’n newid cymhwysedd mewn meysydd sydd wedi’u datganoli megis amaethyddiaeth neu’r amgylchedd.

Mater arall a allai lesteirio gallu Gweinidogion Cymru i weithredu yw bod llywodraeth y DU eisiau diogelu marchnad sengl y DU fel y cedwir sefydlogrwydd a sicrwydd o fewn y DU. Bydd hyn yn gofyn am fframweithiau cyffredin i’r DU, sy’n ailadrodd fframweithiau presennol y DU, drwy ddeddfwriaeth y DU. Mae llywodraeth y DU yn ymrwymo i ddechrau ‘trafodaethau dwys’ gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i ganfod lle mae fframweithiau cyffredin yn angenrheidiol ai peidio fel eu bod yn ‘gweithio dros y DU gyfan a phob rhan o’r DU.’

Mae llywodraeth y DU yn disgwyl y bydd ‘cynnydd sylweddol ym mhŵer pob gweinyddiaeth ddatganoledig i wneud penderfyniadau’ yn rhan o’r broses hon. Ond gallai hyn ddibynnu ar y dehongliad o ‘bŵer gwneud penderfyniadau’ presennol y gweinyddiaethau datganoledig.

Er enghraifft, ystyrir yn aml fod amaethyddiaeth ‘wedi’i datganoli’n llawn’ gan y gweinyddiaethau datganoledig, ond mae’n gweithio o fewn fframweithiau’r UE. Felly mae’n ddadleuol a yw’r penderfyniadau a wneir o ganlyniad i rwymedigaethau’r UE yn bwerau gwneud penderfyniadau llawn.

Bydd hyn yn arwyddocaol wrth benderfynu ar hyd a lled anhyblygrwydd unrhyw fframweithiau cyffredin y DU sy’n ceisio disodli fframweithiau’r UE. Hyd nes bod gennym syniad cliriach o ‘fframweithiau cyffredin y DU’ hyn a pha gyfyngiadau fydd ar bwerau deddfu a gwneud penderfyniadau’r sefydliadau datganoledig, mae’n anodd penderfynu sut bydd troi cyfreithiau’r UE yn gyfraith y DU yn effeithio ar y setliad datganoli.

Mae Dr Huw Pritchard a Manon George yn aelodau o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac yn ddarlithwyr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd.

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Prifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *