Economi a Masnach

Brexit: ‘Fortecs’ i fwyd a ffermio yn y DU

Nid yw bwyd a ffermio wedi bod yn uchel ar yr agenda Brexit hyd yma ac mae’n dioddef o statws Sinderela yn y trafodaethau, yn ôl yr Athrawon Terry Marsen a Kevin Morgan. Yma maen nhw’n dadlau bod angen trafodaeth frys ar ei ddyfodol gan ei fod yn sector sy’n hollbwysig i gyflogaeth, iechyd y cyhoedd, hygrededd amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol yn y dyfodol.

Wrth i broses ddadleuol Brexit ddechrau, mae arwyddion y gallai’r wlad unwaith eto fod yn symud yn ddiarwybod tuag at argyfwng bwyd-amaeth.

Yn wahanol i’r cyfnod Imperialaidd, pan fu gan y wladwriaeth Brydeinig ddewisiadau imperialaidd a mathau eraill o quid pro quo wrth allforio i’w threfedigaethau, bydd bellach mewn sefyllfa wannach o lawer i sicrhau cytundebau masnachu o amgylch y byd. Dylem hefyd gydnabod i’r UE rymuso’r fasnach fwyd Brydeinig yn hytrach na’i hatal.

Felly, beth fydd y sefyllfa i gynhyrchwyr bwyd, proseswyr, y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant ac yn wir defnyddwyr?

Ymhell cyn Brexit, roedd system fwyd y DU yn gamweithredol ac yn doredig – yn creu mwy o dlodi bwyd, risgiau iechyd mawr, ac yn beryglus o ddibynnol ar fewnforion wedi’u carboneiddio. Ond byddem yn dadlau, heb strategaeth bwyd a ffermio genedlaethol, pan ddaw’r wlad at ei gilydd i ddatblygu dull arloesol a rhyngwladol o systemau integredig wrth gynhyrchu a chyflenwi bwyd cynaliadwy a hyrwyddo deietau cynaliadwy, byddwn yn dechrau ac yn gorffen y broses Brexit mewn ffyrdd a allai waethygu tlodi bwyd a’r risg i fwyd yn ddifrifol am genhedlaeth neu fwy.

Ar ôl cyfnod o ‘benmaenmawr’ cychwynnol ar ôl canlyniad y refferendwm, pan roedd nifer o fuddiannau yn y sector yn dadlau dros fodel ‘busnes yn ôl yr arfer’ i fwyd a ffermio Prydeinig gyda mynediad i’r Farchnad Sengl, a chynnal amryw fecanweithiau cymorth, mae bellach yn amlwg yn dilyn y papur gwyn ar Brexit y bydd ‘Brexit caled o ran bwyd’ yn digwydd.

Gallai bwyd a ffermio fod ar waelod y domen o ran y sectorau i’w trafod yn y cyfnod a ddaw ar ôl i’r DU adael y farchnad sengl, gyda gwerth uwch sectorau fel fferylliaeth, ceir, gwasanaethau ariannol ac awyrofod yn arwain y trafodaethau ac yna electroneg, pysgodfeydd, dur, olew a nwy.

Nid bwyd a ffermio fydd yr unig sector a fydd mewn sefyllfa anodd o ran ceisio masnachu i Ewrop ar ôl Brexit. Bydd yn bwysig felly creu hinsawdd fwy cadarnhaol i sicrhau trafodaeth flaengar, i ddechrau egluro goblygiadau’r polisïau hyn i’r sector bwyd a ffermio, yn arbennig yn y gwagle gwleidyddol sydd wedi dominyddu San Steffan o ran y bregusrwydd posibl hirdymor y mae llywodraeth ganolog yn agor rhannau mawr o’r boblogaeth ddomestig iddo.

Mae’r sector bwyd a ffermio’n agored iawn i berygl gan newid cyfundrefn systemau cyfan. Hyd yma, yn bennaf oherwydd y trafodaethau darniog a ffraegar yn y sector ar broses Brexit, anwybyddwyd yr effaith systematig gyffredinol hon gan mwyaf. Mae effeithiau systemig yn golygu y gall un amod arwain at un arall ac ar ôl yr effaith hon y gallai fod effeithiau negyddol/cadarnhaol gwahanol sy’n gwella/gwaethygu gwydnwch neu’r risg i’r system bwyd a ffermio yn ei chyfanrwydd.

Gallai Brexit caled o ran bwyd greu aflonyddwch sylweddol neu newid strwythurol yn system fwyd gyfredol y DU, a allai arwain at gyfres o effeithiau negyddol gwaethygol yn y system fwyd gyfan, sydd eisoes yn fregus.

Gallai hyn greu’r amodau sy’n creu rhyng-gysylltiadau ac achosion ac effeithiau sy’n arwain at leihau capasiti’r system fwyd gyfan i’w chynnal ei hun.

Gan fod y system bwyd a ffermio wedi’i hintegreiddio mor ddwfn i’r UE a marchnadoedd eraill y byd, nid ydym yn rhoi hanner digon o sylw i dueddiadau potensial y fortecs.

Felly beth yw rhai o’r amodau fyddai’n creu fortecs?

O ran cynhyrchu bwyd:

  • Bydd gadael marchnad sengl yr UE a’i gwneud yn fwy costus a chymhleth i fasnachu yn Ewrop yn drychinebus i ffermwyr ym Mhrydain o ystyried maint cyffredinol marchnad yr UE, yn enwedig o ran cig eidion, cynnyrch llaeth a chig oen.
  • Bydd troi (yn araf iawn) at gytundebau masnachu eraill â marchnadoedd eraill (e.e. Awstralasia, Gogledd America) yn cymryd amser gan gynnig marchnad lai.
  • Bydd cytundebau masnachu “America yn Gyntaf” posibl ag UDA wir yn gallu agor marchnadoedd domestig y DU at gynhyrchion bwyd a reoleiddir llai, fel cig eidion a chynnyrch llaeth a drinnir â hormonau, a phorthiant a bwyd a addasir yn enetig.
  • Gallai cymorthdaliadau fferm (yn enwedig taliadau fferm sengl Colofn 1) ddod i ben neu leihau, er bod nifer o ffermydd teuluol yn gwbl ddibynnol arnynt i oroesi. Bydd angen i gynhyrchwyr grawnfwyd mawr, o bosibl yn cystadlu mewn marchnadoedd byd-eang llai sefydlog, fabwysiadu technolegau newydd awtomataidd ac wedi’u mireinio i gynyddu arbedion maint. Ni fydd ffermio cynnyrch llaeth ond yn bosibl mewn llaethdai dwys enfawr, gan arwain at ddwysau’r sector ymhellach.
  • Caiff manwerthwyr fwy o drafferth dod o hyd i nwyddau a fewnforir yn rhad (gweler materion diweddar marmite a chorbwrpenni) o ganlyniad i gostau mewnforio bwyd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd;
  • Ni fydd garddwriaeth ddwys mwyach yn gallu manteisio ar lafur rhad gan fewnfudwyr a bydd yn gorfodi rhai cynhyrchwyr i awtomeiddio ymhellach, i fynd i’r wal neu symud cynhyrchu y tu allan i’r DU i’r UE lle mae llafur rhad – gyda mwy o gynhyrchiant garddwriaethol yn Nwyrain a De Ewrop.
  • Yn hytrach nag arwain at lai o ‘dâp coch’ a rheoleiddio, bydd Brexit yn gwneud rheolau rheoleiddiol rhwng tiriogaethau a sectorau bwyd gwahanol yn fwy cymhleth. Bydd yn rhaid i asiantaethau yn y DU (DEFRA a’r ASB) ysgwyddo mwy o’r baich rheoleiddio o ran diogelwch bwyd, hylendid a brandio o ansawdd. Bydd hyn yn gostus iawn i’r pwrs cyhoeddus.
  • Fel y gwelwn eisoes yng nghefn gwlad Prydain, mae gostyngiad yn refeniw trethi’r llywodraeth yn cynyddu ardrethi busnesau gwledig. Mae hyn yn debygol o barhau, fel gyda threthi cyffredinol cynghorau.

O ran defnyddwyr:

  • Mae defnyddwyr trefol yn debygol o weld cynnydd mewn prisiau bwyd ac ynni yn eu harchfarchnadoedd lleol, gan waethygu lefelau tlodi bwyd ac ynni, sydd eisoes yn waeth nag erioed.
  • Bydd bwyd o safon mewn cadwyni cyflenwi bach (gan gynnwys bwyd organig) dal ar gael ond am bris uwch a byddant yn creu patrymau defnyddwyr mwy gwrthgyferbyniol.
  • Bydd cyflyrau iechyd sy’n ymwneud â deiet – sydd eisoes yn fwrn enfawr ar y GIG – yn cynyddu yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yr henoed a phobl sy’n agored i niwed.
  • Gallai cytundebau masnachol newydd leihau gallu ac awydd llywodraethau i gaffael brandiau cenedlaethol a rhanbarthol, gan roi blaenoriaeth i fwy o fewnforion bwyd.
  • Bydd defnyddwyr yn wynebu amrywiaeth ehangach o ran safon a risgiau bwyd.

Nid yw bwyd a ffermio ond yn sector sy’n creu nwyddau fel ceir, cyffuriau neu yn wir y sector ariannol, y mae pob un yn arwyddocaol – maen nhw’n fodd i ben.

I’r gwrthwyneb, mae bwyd a ffermio yn weithgaredd sydd o’i hanfod yn hollbwysig am ei fod yn hanfodol i iechyd a lles – mae felly hefyd yn fodd ac yn benllanw.

Fel system ecolegol yn hytrach ag economaidd, mae’n haeddu statws arbennig mewn cylchoedd polisi. Am y rhesymau hyn, mae angen trafodaeth gyhoeddus frys arnom ar ddyfodol bwyd a ffermio yn y DU am fod y sector hwn – sector sy’n hanfodol i gyflogaeth, iechyd cyhoeddus, hygrededd ecolegol a chyfiawnder cymdeithasol yn y dyfodol – yn dioddef o statws Sinderela yn y trafodaethau Brexit.

Ymddangosodd y post hwn yn gyntaf ar flog y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Prifysgol Caerdydd.

Yr Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, ac Athro Polisi a Chyllunio Amgylcheddol yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio.

Mae’r Athro Kevin Morgan yn Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd, lle mae hefyd yn Ddeon Ymgysylltu.

 

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *