Brexit, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Dyfodol Cymru yn Ewrop?

Yn sgil y bleidlais yng Nghymru o blaid gadael yr UE, mae Dr Rachel Minto yn trafod yr her y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu wrth iddi geisio parhau i gael ei hystyried yn un o genhedloedd Ewrop.

Cymru – cenedl fach ond hyderus, o blaid Ewrop.

Ar un adeg, nid oedd unrhyw un yn herio’r syniad hwn.  Heddiw, fodd bynnag, wrth i ni ddechrau’r trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE yn sgil y refferendwm, mae’n anodd dweud hynny gydag argyhoeddiad.

Yn wir, er gwaethaf brwdfrydedd y dosbarth gwleidyddol yng Nghymru dros yr UE, er gwaethaf yr ymdrech i bortreadu Cymru fel cenedl Ewropeaidd ar lefel ryngwladol, ac er gwaethaf y miliynau o bunnoedd gan yr UE bob blwyddyn, nid oes modd dianc rhag yr hyn sy’n anochel.

Pleidleisiodd Cymru i Adael.

Roedd rhai’n ei chael hi’n anodd credu canlyniad Refferendwm yr UE yng Nghymru: roedd twrcïod wedi pleidleisio o blaid y Nadolig; roedd Cymru wedi gwneud niwed mawr i’w hun.  Wrth gwrs, cafodd y canlyniad ei groesawu gan eraill; yn enwedig y mwyafrif o’r rhai a bleidleisiodd yng Nghymru ac a ddeffrodd ar 24 Mehefin 2017 ar ‘y tîm a enillodd‘ refferendwm yr UE.

I Lywodraeth Cymru, mae’r daith naw mis rhwng 24 Mehefin a heddiw wedi bod yn hir ac yn arw.  Rhaid cyfaddef eu bod mewn sefyllfa annymunol: maent yn gorfod taro cydbwysedd rhwng eu dymuniad i’r DU barhau’n aelod o’r UE, a realiti’r bleidlais yng Nghymru o blaid Gadael.

Ar ôl ambell i fagliad a cham gwag, cafwyd rhyw fath o gyfaddawd rhwng y ddau nod gwrthwynebol ar ffurf y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2017.  Yn y papur hwn cyflwynodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Phlaid Cymru, eu cynllun ar gyfer Brexit yng Nghymru: ‘Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop’.  Roedd y cynllun hwn yn trafod perthynas y DU â’r UE yn y dyfodol, a sut ddylai’r DU weithredu’n fewnol ar ôl Brexit, ar ffurf undeb o bedair cenedl.

Mae’r weledigaeth Gymreig hon o Brexit yn cyferbynnu’n llwyr â’r Brexit a gynigiwyd gan Brif Weinidog y DU yn ei haraith yn Lancaster House, a’r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl hynny.

Yn wahanol i Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru o blaid parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.  Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd parhau i roi’r hawl i bobl symud yn rhydd, ond ar sail cysylltiad cryfach rhwng rhyddid i symud a chyflogaeth na’r system sydd ar waith yn y DU ar hyn o bryd.

Mae’n dadlau y dylai Cymru barhau i gymryd rhan mewn nifer o raglenni UE, gan gynnwys Horizon 2020 (ar gyfer gwyddoniaeth ac ymchwil), ERASMUS+ (addysg a hyfforddiant), Ewrop Greadigol (cefnogi’r sectorau diwylliannol a chreadigol) a’r Rhaglen Cymru-Iwerddon.  Yn ogystal â hynny, mae’n dadlau y dylai’r DU barhau i fod yn bartner ym Manc Buddsoddi Ewrop.

At hynny, mae’r Papur Gwyn yn tynnu sylw at ba mor werthfawr yw’r safonau cymdeithasol ac amgylcheddol a geir drwy fod yn aelod o’r UE; er mai dim ond rhwyd arbed yw’r rhain ar adegau, mewn achosion lle mae’r safon yn y DU yn uwch ar hyn o bryd.  Daw’r haeriad hwn gan Gymru wrth i Brif Weinidog y DU awgrymu y gallai’r DU newid ei model economaidd os nad yw’n cael mynediad boddhaol at y Farchnad Sengl. Byddai hyn yn cynnwys creu amodau mwy ffafriol ar gyfer busnesau, a allai o bosibl olygu gwanhau hawliau cyflogaeth a llai o fesurau i amddiffyn yr amgylchedd.

Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae eu cynllun Brexit yn parchu pleidlais y mwyafrif yng Nghymru o blaid Gadael, ond nid yw’n dehongli’r canlyniad hwn fel pleidlais o blaid tanseilio swyddi yng Nghymru, neu o blaid niweidio gallu Cymru i allforio a denu buddsoddiadau uniongyrchol o dramor.

Canlyniad hyn yw bod y Brexit Cymreig hwn wedi’i seilio ar ymagwedd gadarnhaol at Ewrop, ac yn ddatganiad clir gan Lywodraeth Cymru bod y wlad am barhau i fod yn genedl Ewropeaidd.

Wrth gwrs, dim ond hyn a hyn o amser sydd ar ôl gan Gymru o fewn strwythur sefydliadol yr UE.  Nid oes gan Gymru unrhyw allu cyfreithiol i gael perthynas annibynnol â’r UE, a phan fydd y DU yn ymadael â’r UE, bydd Cymru’n colli ei chynrychiolwyr neilltuedig yn Senedd Ewrop, ym Mhwyllgor y Rhanbarthau, a Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop.

Y tu hwnt i hyn, fodd bynnag, nid yw ffawd Cymru wedi’i selio eto yng nghyd-destun Ewrop.

Yn sicr, ar ôl Brexit, bydd yr UE yn llai perthnasol o safbwynt polisïau.  Fodd bynnag, ni fydd Ewrop yn gwbl amherthnasol, ac mae’n debygol y bydd gan Gymru ryw fath o lais ym Mrwsel.  Mae gan Gymru ei swyddfa ei hun ym Mrwsel, Tŷ Cymru.  Yno, mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac Addysg Uwch Cymru Brwsel.

Bydd lefel a ffocws y gynrychiolaeth ar ôl Brexit yn dibynnu ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y pen draw; ac, y tu hwnt i hynny, ar strategaethau rhyngwladol sefydliadau o Gymru, yn enwedig Llywodraeth Cymru.  Gallai strategaethau o’r fath gynnwys newid ffocws yn ein perthynas a’r rhwydweithiau sy’n gweithredu ledled Ewrop ac y tu hwnt, a meithrin partneriaethau â rhanbarthau eraill yn Ewrop, y tu mewn ac y tu allan i’r UE.

Ond mae hefyd yn bwysig cofio bod canlyniad Refferendwm yr UE yng Nghymru yn dangos rhaniad yn y genedl.    Beth bynnag fydd dewis Cymru ar gyfer ei dyfodol yn Ewrop, ac ni waeth pa mor gryf yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol, bydd yn rhaid cyflawni’r agenda yng nghyd-destun y bleidlais o blaid Gadael yr UE yng Nghymru.  Mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i gyfeillion Cymru yn Ewrop ei wynebu.  Mae Erthygl 50 ar fin cael ei thanio, a golyga hynny fod yn rhaid codi pontydd gartref a thramor.

Mae Dr Rachel Minto yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

 Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Prifysgol Caerdydd. 

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *