Cyswllt Caerdydd

Myfyrio ar Fywyd: Neville John (BMus 1957)

Posted on 21 Hydref 2020 by Alumni team

Cafodd Neville John (BMus 1957) ei eni yn y Tymbl, Sir Gâr a bu’n astudio’r soddgrwth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd yrfa lwyddiannus fel athro cerdd a chyfansoddwr ar ôl ei astudiaethau, ac yn ddiweddar dathlodd ei ben-blwydd yn 90 oed. Yn yr erthygl hon sy’n Myfyrio ar Fywyd, mae’n edrych yn ôl ar ei deulu cerddorol, ei atgofion gorau o Gaerdydd a’r drychineb hanesyddol a fu’n ysbrydoliaeth iddo gyfansoddi.
Read more






Osgoi chwythu eich plwc drwy ddod o hyd i’ch ‘peth’ – I Gynfyfyrwyr, gan Gynfyfyrwyr

Posted on 23 Medi 2020 by Alumni team

Daeth Gemma Clatworthy (BA 2007) ar draws ei hangerdd dros adrodd straeon pan fu’n astudio Hanes Hynafol ym Mhrifysgol Caerdydd, ond nid tan bandemig byd-eang a chyfnod clo cenedlaethol y dysgodd am bŵer canolbwyntio ar rywbeth rydych chi’n ei garu i leddfu straen. Yma, mae’n rhannu ei brwydrau gyda chydbwyso gyrfa, gofal plant a’r awydd afrealistig i fod yn berffaith, a sut y gwnaeth osgoi chwythu’i phlwc o drwch blewyn drwy ddefnyddio grym ei theimladau i fod yn greadigol.
Read more


TeamCardiff

Sesiwn Holi ac Ateb #TîmCaerdydd gyda Charlotte Arter

Posted on 18 Medi 2020 by Anna Garton

Cafodd ein Capten #TîmCaerdydd, Hannah Sterritt, gyfle i ddal lan gyda’r athletwr rhyngwladol, Charlotte Arter, am sesiwn holi ac ateb ddifyr iawn. Charlotte sydd â’r record hanner marathon Cymru, record y byd parkrun menywod, ac mae’n athletwr rhyngwladol dros Brydain. Ymunodd â ni i ateb ychydig o gwestiynau ar dorri ei record parkrun ei hun,
Read more



Myfyrio ar Fywyd – Dino Willox (BA 1996, MA 1999, PhD 2003)

Posted on 17 Awst 2020 by Kate Morgan (BA 2017)

Dino Willox yw’r cyfarwyddwr ar gyfer cyflogadwyedd myfyrwyr Prifysgol Queensland ac mae wedi bod mewn sawl rôl ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys Pennaeth Cofnodion Myfyrwyr a Chofrestrydd Cynorthwyol. Roedd Dino hefyd yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd dair gwaith ac mae wastad wedi hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn Addysg Uwch. Yma, maen nhw’n adlewyrchu ar eu gyrfa, hel atgofion am Gaerdydd, a chynnig cipolwg gwerthfawr.
Read more


Hoffi bwyd, casáu gwastraff – bwyta’n foesegol ac effaith y cyfnod clo

Posted on 31 Gorffennaf 2020 by Kate Morgan (BA 2017)

Mae Lia Moutselou (Daearyddiaeth a Chynllunio 2002-2005) yn uwch-reolwr polisi ar gyfer corff gwarchod dŵr ac yn un o bedwar cyfarwyddwr Lia’s Kitchen, sy’n gwmni buddiant cymunedol. Mae gan Lia brofiadau eang ac mae wedi bod yn ddarlithydd yn ogystal â myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae hi’n trafod gwastraff bwyd, y diwydiant bwyd, ryseitiau newydd, a’i barn ar y byd, ar ôl y pandemig.
Read more