Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Dechrau hael i’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

28 Ionawr 2021

Mae Cangen Prydain o Gymdeithas yr Ysgolheigion sy’n Dychwelyd o‘r Gorllewin wedi bod mor hael â rhoi masgiau i Brifysgol Caerdydd fel arwydd twymgalon o undod a chefnogaeth.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael anrheg hael ac annisgwyl gan rai o’i ffrindiau a myfyrwyr blaenorol.

Cwblhaodd Haiyan Tu (PGDip 1990) gwrs Saesneg yn y Brifysgol ym 1990, ond mae wedi cadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol a chadw llygad barcud ar ei llwyddiannau a’i heriau ers hynny. Mae hi’n rhan o sefydliad ehangach Cangen Prydain o Gymdeithas yr Ysgolheigion sy’n Dychwelyd o’r Gorllewin. Esboniodd Haiyan ei bod am “ad-dalu pobl Prydain am eu caredigrwydd a’u haelioni o’r adeg y bues i’n astudio yno.”

Ychwanegodd: “Mae Prifysgol Caerdydd bob amser yng nghalon ein cynfyfyrwyr gan mai hi yw’r ffenestr gyntaf sy’n gadael i ni, fyfyrwyr Tseineaidd, weld y byd ac yn rhoi hwb mawr i ni yn ein gyrfa.”

Mynegodd Barry Sullivan, dirprwy gyfarwyddwr Cysylltiadau Cefnogwyr, ei ddiolchgarwch ar ôl derbyn y masgiau: 

“Roeddem mor ddiolchgar am y cynhesrwydd a’r haelioni a ddangoswyd inni gan ffrindiau hen a newydd yn Tsieina. Roedd yn ddechrau calonogol i 2021 pan gyrhaeddodd sawl blwch o gyfarpar diogelu personol ar gyfer myfyrwyr a staff y campws. Ar ran Prifysgol Caerdydd, hoffwn ddiolch o galon i Gangen Prydain Cymdeithas yr Ysgolheigion sy’n Dychwelwyd o’r Gorllewin – a Haiyan Tu yn benodol, sy’n un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Boed i flwyddyn yr ychen roi dewrder inni i gyd chwilio am ffyniant.”

Cyrhaeddodd yr anrheg hon ar adeg addas dros ben. Bydd y masgiau ar gael yn nerbynfeydd adeiladau pwysig ar y campws a byddant ar gael i ymwelwyr nad oes ganddynt orchudd wyneb eu hunain ac sy’n methu mynd i mewn fel arall – gan helpu’r Brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn cael eu cadw’n ddiogel.

Blwyddyn Newydd Tsieineaidd Hapus i gymuned ein cynfyfyrwyr! Os ydych chi’n raddedig o Tsieina, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru gyda Chysylltu Caerdydd ac yn ymuno â’n grŵp Tsieina. Bydd hyn yn eich galluogi i gysylltu â chyfoedion Prifysgol Caerdydd, cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a newyddion, yn ogystal â datblygu eich rhwydwaith.