Skip to main content

DonateNewyddion

Rhedeg er lles dros y gaeaf hwn

18 Rhagfyr 2020

Gall misoedd y gaeaf fod yn anodd i unrhyw un sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl, ac eleni yn fwy nag erioed.  

Ond mae ymarfer corff fel rhedeg yn ffordd effeithiol o ofalu ar ôl eich iechyd meddwl. Mae bod y tu allan yn y golau naturiol ac aros yn egnïol yn helpu lles cyffredinol. Gall yr hwb serotonin a gawn o’r haul ac ymarfer corff roi hwb i hwyliau, gwella cwsg a bod o fudd i’ch iechyd meddwl.  

Fodd bynnag, gall cyfuniad o dywydd gwael, nosweithiau tywyll, a phwysau ychwanegol i ymdopi ag ymrwymiadau teuluol ochr yn ochr â gwaith ei gwneud hi’n anhygoel o anodd dod o hyd i’r amser a’r cymhelliant. 

Mae ymchwil yn dangos bod menywod yn rhedeg ar gyfer iechyd meddwl 

Edrychodd astudiaeth a gynhaliwyd yn 2019 gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â threfnwyr Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd, Run 4 Wales, yn benodol ar pam mae menywod yn rhedeg, a’r ffactorau sy’n eu rhwystro.   

Dywedodd menywod a ymatebodd i’r astudiaeth fod rhedeg yn hybu eu hiechyd corfforol a meddyliol, yn lleddfu gorbryder ac yn gwella eu lles. Mewn gwirionedd, dywedodd 74% o fenywod mai buddion iechyd meddwl oedd un o’r rhesymau eu bod yn rhedeg.  

Ond canfu’r astudiaeth hefyd fod pwysau gwaith a theulu yn effeithio ar yr amser sydd ganddynt i redeg. Gydag effaith ychwanegol COVID-19, nid yw’n syndod bod llawer o fenywod yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i amser i wneud ymarfer corff, ar adeg y mae ei hangen fwyaf mewn gwirionedd. 

Cael ffocws 

Er nad oes ffon hud i greu mwy o oriau yn ystod y dydd, gall trin ymarfer corff fel rhan bwysig o’ch trefn hunanofal corfforol a meddyliol helpu wrth flaenoriaethu’r hyn sydd gennych i’w wneud. Gall ymrwymo i her fod yn allweddol i gadw ffocws eich hun, a sicrhau eich bod yn cadw at eich targedau ymarfer corff. 

Mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd bellach wedi’i drefnu ar gyfer 3 Hydref 2021 sy’n golygu bod tua naw mis tan ddiwrnod y ras. Cofrestrwch i redeg gyda #TîmCaerdydd a byddwn yn helpu i gadw’ch cymhelliant gydag awgrymiadau a chyngor rheolaidd i’ch helpu i aros ar y trywydd iawn.  

Rhedeg i gefnogi ein hymchwil o safon fyd-eang 

Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd rhad ac am ddim sydd gennym ar gyfer ein codwyr arian – dewiswch eich achos a chofrestrwch i gymryd rhan. Gallech ddewis cefnogi’r ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd i helpu i wella diagnosis a thriniaeth ar gyfer ystod eang o gyflyrau gan gynnwys iselder ysbryd, sgitsoffrenia, ac anhwylder deubegynol. 

Mynegwch eich diddordeb gyda ni a byddwn yn cysylltu i roi rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r broses gofrestru a hawlio eich lle am ddim ar #TîmCaerdydd.