Skip to main content

DonateNewyddion

Mae interniaethau yn ‘fuddiol i bawb’

9 Rhagfyr 2020

Bu Mohammad Arshad (MEng 2020) ar interniaeth dros yr haf gyda KGAL Consulting Ltd. Cafodd y lleoliad gwaith ei gynnig gan gynfyfyriwr o Gaerdydd. O ganlyniad, cafodd swydd barhaol gyda’r cwmni ac mae wedi cychwyn ar ei yrfa ym maes peirianneg. Cawsom air gydag ag ef i glywed am sut y gwnaeth y mwyaf o’r cyfle a chael swydd mewn maes y mae galw mawr amdano.  

Roedd graddio a cheisio cael swydd yn ystod y pandemig yn brofiad rhyfedd. Roedd hi’n braf cael canlyniad fy ngradd ond roedd yn drueni fy mod yn methu dathlu’r cyflawniad gyda ffrindiau a theulu. 

Roedd gwneud interniaeth gyda KGAL yn ystod cyfnod mor heriol yn hanfodol i gael gwaith. Mae’r farchnad swyddi yn hynod gystadleuol ta beth, a gan nad oedd llawer o fusnesau yn recriwtio oherwydd pandemig COVID-19, roedd hyd yn oed yn anoddach cael hyd i swydd. Gan fy mod wedi gwneud interniaeth, roedd y broses gyfan yn llawer llai o straen. Roeddwn yn gwybod eu bod yn awyddus i’m gwahodd yn ôl ac roeddwn innau’n awyddus i ymuno â nhw. 
 

Yn ystod yr interniaeth yn KGAL cefais y cyfle i ddangos fy mharodrwydd i weithio’n galed a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel, felly mi roedd yn help mawr i gael swydd. Rhoddodd gyfle i mi ddatblygu fy sgiliau adeiladu tîm a rhyngbersonol, ynghyd â phrofiad o weithio gydag eraill tuag at nod cyffredin. Yn ystod fy amser yno, cynorthwyais gyda dylunio giât amddiffyn rhag llifogydd yn rhan o Lowestoft Flood Risk Management Project. Dyluniais fecanwaith codi a fyddai’n gostwng ac yn codi sêl waelod y llifddor.   


Roedd hyn hefyd yn caniatáu i mi weld perthnasedd y gwaith damcaniaethol yr oeddem yn ei wneud yn y brifysgol yn y byd go iawn. Roedd rhoi’r holl wybodaeth a phrosesau ar waith ar gyfer prosiect byw yn brofiad gwych. Fe ddysgodd i mi’r arferion cywir a ddefnyddir mewn diwydiant a dilysodd fy nysgu

Ar hyn o bryd, rydw i’n mwynhau fy amser yn KGAL yn fawr ac rydw i wedi ailgydio yn y gwaith a wnes i yn ystod fy lleoliad gwaith. Mae KGAL wedi bod yn hynod groesawgar, fel o’r blaen, ac wedi fy nghefnogi wrth i mi symud o Gaerdydd i Bournemouth.  

Fy nharged nesaf yw cyflawni statws siartredig gyda’r ImechE. Mae fy nghwmni wedi fy nghefnogi’n llawn yn yr ymdrech hon, gan fy annog i ddatblygu fy hun yn broffesiynol, ac wedi darparu mentor i’m tywys trwy’r broses. 

Byddwn yn annog eraill yn gryf i gymryd rhan mewn rhaglen interniaeth neu rywbeth tebyg. Mae’n hanfodol yn yr sefyllfa sydd ohoni o ran swyddi cael profiad gwaith ymlaen llaw. Hyd yn oed os yw’n lleoliad gwaith dros yr haf fel yr un ges i, gallai arwain at swydd yn y pen draw. Mae hefyd yn eich helpu i ddarganfod pa yrfa rydych chi wir eisiau ei dilyn. 

Gallaf ddweud gyda sicrwydd y byddai llawer o fyfyrwyr yn dal i chwilio am waith, yn enwedig yn yr amgylchiadau presennol, heb interniaethau. Mae cefnogi myfyrwyr i gael interniaethau yn eu rhoi ar y llwybr i ddechrau eu gyrfa ar ôl eu gradd, ac yn rhoi cipolwg iddynt ar y mathau o swyddi sydd ar gael. 

Os ydych mewn sefyllfa i gynnig interniaeth, gwnewch hynny ar bob cyfrif. Yn aml bydd o fudd i bawb o dan sylw gan y byddwch chi’n cael graddedig sy’n gweithio’n galed, a byddan nhw’n gallu ennill profiad ac annibyniaeth.  

Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gefnogi myfyrwyr Caerdydd i ennill profiad gwaith gwerthfawr yn y byd go iawn drwy gynnig Interniaethau, lleoliad gwaith neu roi rhodd