Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrMusic

Phillip Cooke (PhD 2008)

19 Hydref 2020
Dr Phillip Cooke

Astudiodd Phillip Cooke (PhD 2008) yn yr Ysgol Cerddoriaeth ac mae bellach yn Bennaeth Cerddoriaeth yn Adran Cerddoriaeth Prifysgol Aberdeen. Dywed i’r cyfleoedd addysgu a roddwyd iddo fel myfyriwr PhD ei helpu gyda’i yrfa arfaethedig yn ogystal â rhoi’r profiad angenrheidiol ar gyfer ymgeisio am swyddi ar ôl graddio.

Fy hoff atgofion o fy nghyfnod yng Nghaerdydd yw’r cyfleoedd oedd ar gael i fi fel cyfansoddwr ac academydd. Dysgais lawer ond cefais lawer o brofiadau hefyd. Roedd gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn uchafbwynt, fel oedd gweithio gydag amrywiol ensembles a pherfformwyr proffesiynol.

Roedd hefyd yn wych cael bod yng Nghaerdydd, wrth iddi dyfu’n ddinas fyd-eang. Roedd gweld yr adeiladau newydd yn ymddangos a gwylio’r ddinas yn dod o hyd i’w hunaniaeth yn rhywbeth gwych i gael bod yn rhan fach ohono.

Cyflwynodd yr Ysgol Cerddoriaeth set wych o alluoedd i mi eu defnyddio fel cyfansoddwr, athro ac academydd, ac rwyf i’n dal i ddefnyddio pob un heddiw. Yn sicr roedd y cyfleoedd a gefais i addysgu yn gymorth i fi ddod yn ddarlithydd gwell, a helpodd y cyfle i weithio gyda cherddorion gwych fi fel cyfansoddwr.

Ar ôl graddio bûm i’n ffodus i gael Cymrodoriaeth Datblygu Gyrfa yng Nghyfadran Cerddoriaeth Prifysgol Rhydychen. Fe’i cyfunais gyda Chymrodoriaeth Ymchwil Iau yng Ngholeg Queen’s, Rhydychen. Roedd yn newid mawr o Gaerdydd, ond yn gam buddiol arall yn fy ngyrfa.

Gweithiais yn Rhydychen am bum mlynedd cyn symud i Aberdeen. Rwyf i wedi parhau i gyfansoddi, gan weithio gyda nifer o gorau ac ensembles blaenllaw’r wlad gyda llawer o recordiadau, darllediadau a chyhoeddiadau.

Ar hyn o bryd, fi yw Pennaeth Cerddoriaeth yr Adran Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Aberdeen. Does dim dau ddiwrnod yr un fath, ond ers dod yn Bennaeth, rwyf i wedi cyfnewid darlithio am gyfarfodydd, sy’n drueni mewn rhai ffyrdd ond mae’n ddiddorol bod yn rhan o ddatblygiad strategol y ddisgyblaeth.

Yn ddiweddar hefyd rwyf i wedi cael fy mhenodi’n arholwr allanol ar raglenni israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol yw bod maes cyfansoddi a’r byd academaidd yn hynod o anodd i fynd iddyn nhw, ond mae hynny’n iawn. Ambell waith  mae pethau’n anodd ond, heb geisio swnio fel canllaw hunangymorth, po fwyaf o bethau anodd sydd yn rhaid i chi eu goresgyn, y mwyaf y byddwch ar eich ennill o’u goresgyn nhw.

Byddwn i’n dweud wrthyf fy hun fel person ifanc i wneud y gorau o bob cyfle a ddaw a mwynhau cael y lle a’r amser i weithio’n galed ar y peth sy’n bwysig i chi. Unwaith y bydd gennych chi swydd lawn amser a phlant, does dim cymaint o le ac amser ar gael i chi.

Pe bai’n rhaid i fi ddisgrifio Prifysgol Caerdydd mewn pum gair byddwn i’n dewis: cynhwysol, cosmopolitan, byd-eang, cofiadwy ac wedi’i thanbrisio.

Yr argraff sydd wedi aros gyda fi o’r brifysgol yw lle croesawgar gyda phobl wych a chyfnod gwirioneddol ddifyr yn fy mywyd.