Skip to main content

DonateNewyddion

Codwyr Arian Rhithwir #TîmCaerdydd Nelson Selvaraj

2 Hydref 2020

Mae Nelson Selvaraj (MSc 2015) yn aelod o staff ac yn gynfyfyriwr sydd newydd redeg ras rithiol i godi arian ar gyfer ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae’n sôn am yr hyn a’i ysbrydolodd i wynebu’r her gorfforol hon ac mae’n rhannu ei ddoethineb â’r rheini sy’n ystyried gwneud rhywbeth tebyg.

Beth yw ‘ras rhithiol’ a sut mae ei rhedeg?

Mae ‘ras rhithiol’ yn debyg i unrhyw ddigwyddiad rhedeg ‘swyddogol’, ond rydych yn dewis y lleoliad eich hun, pryd byddwch yn rhedeg, a pha mor gyflym y byddwch yn rhedeg unrhyw bellter o’ch dewis chi. Gall fod yn hwyl, ac mae gennych reolaeth dros sut rydych am redeg y ras, ond mae angen llawer o baratoi ac ymrwymiad o hyd, yn enwedig ar gyfer rhedeg pellter hir fel hanner marathon neu farathon llawn.

Mae’r rhan fwyaf o rasys rhithwir yn gweithio’r un fath. Mae’r rhedwyr yn cofrestru a thalu’r ffi gofrestru, ond mae rhai rasys rhithiol yn rhad ac am ddim. Wrth i chi gofrestru, gallwch ddewis y pellter yr ydych am ei redeg. Ar ôl i chi redeg y ras, gallwch lanlwytho eich amseroedd ar-lein a chael medal am orffen y ras drwy’r post gan drefnwyr y digwyddiad.

Sut gwnaethoch chi feddwl am yr her hon?

Roeddwn yn bwriadu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd ym mis Hydref eleni a chodi arian i Brifysgol Caerdydd, ond oherwydd y pandemig presennol, cafodd nifer o ddigwyddiadau rhedeg poblogaidd eu canslo neu eu gohirio. Ond doedd hyn ddim am fy atal rhag gwneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn yn hollol benderfynol a dechreuais chwilio am wybodaeth am ddigwyddiadau rhedeg rhithiol. Gallwch gael cymaint o wybodaeth o flogiau nifer o redwyr, ac mae gan y gymuned rhedeg leol rai rhedwyr ‘rhithwir’ anhygoel. Heb os nac oni bai, rhoddodd eu hangerdd dros redeg yr hyder i mi redeg ras rithwir.

Oes gennych chi unrhyw brofiad rhedeg blaenorol?

Byddwn yn falch pe gallwn ddweud fy wedi dwli ar redeg o’r tro cyntaf un ond nid felna roedd hi mewn gwirionedd. Doeddwn i byth yn berson ‘athletaidd’ yn yr ysgol na’r brifysgol, er fy mod yn eithaf da am gerdded yn bell gyda fy ffrindiau.

Mae rhedeg yn rhywbeth gweddol newydd i fi; mae’n broses araf a chyson a threuliais nifer o flynyddoedd yn mireinio fy nhechneg rhedeg. Mae nifer o fy ffrindiau a chydweithwyr yn rhedwyr profiadol, a dwi’n mwynhau gwrando ar rai o’u straeon rhedeg yn fawr. Felly, penderfynais osod her i fy hun a rhedeg fy ras hir gyntaf. Hanner Marathon Caerdydd 2016 oedd honno ac rwy’n amau fy mod wedi dal y ‘byg rhedeg’! Ar ôl hynny roeddwn wrth fy modd yn rhedeg yn bell ac yn gweld fy hun yn datblygu ac yn gwella. Hyd yma, rydw i wedi gwneud nifer o rasys mewn parciau, 10Ks a phum hanner marathon swyddogol (Caerdydd, Manceinion, Bryste, Ras Fawr y Gogledd a Ras Fawr Rithiol y Gogledd) – ac rydw i’n falch iawn o hynny!

Beth oedd yr ysbrydoliaeth i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd?

Mae’n amlwg bod y pandemig presennol wedi cael effaith economaidd enfawr ar wahanol sectorau ledled y byd ac mae canslo digwyddiadau codi arian yn golygu bod sefydliadau fel Prifysgol Caerdydd ar eu colled o ran arian ymchwil. Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn arwain ar nifer o fentrau ymchwil sy’n achub bywydau mewn ymateb i’r coronafeirws, ac fel aelod o staff a chynfyfyriwr, roeddwn am rannu’r newyddion da a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith rhyfeddol y mae ein tîm o wyddonwyr yn ei wneud yma ym Mhrifysgol Caerdydd, yn enwedig y gwaith presennol o ddatblygu brechlyn newydd ar gyfer COVID-19.

Pa rwystrau rydych chi wedi’u hwynebu wrth ymarfer ar gyfer eich digwyddiad?

Un o’m pryderon mwyaf o ran y cyfnod clo oedd methu â rhedeg. Gyda chyfyngiadau lleol ar waith, doeddwn i ddim yn gallu cadw at fy nghynllun hyfforddi gwreiddiol ac roedd hynny’n eithaf rhwystredig. Ond ni wnaeth hynny fy rhwystro rhag gwneud ymarfer corff ‘cartref’ (redeg ar yr unfan, cyrcydu a gwasgau byrfraich) i fy nghadw’n egnïol. Pan gafodd y cyfyngiadau clo lleol eu llacio, roeddwn mor hapus ac es i nôl i redeg yn rheolaidd. Roedd yn anodd ar y dechrau oherwydd roedd yn rhaid i mi gael cynllun hyfforddi newydd a dechrau popeth o’r dechrau. Er gwaethaf yr her gychwynnol, dechreuais fwynhau rhedeg ac yn y pen draw, fe wnes i ailgydio yn fy mhatrwm rhedeg.

Roedd mynd i redeg fel cael fy achub. Roeddent yn fy helpu i gofnodi nifer penodol o filltiroedd bob wythnos, a hefyd yn helpu fy lles meddyliol ac yn fy rhoi mewn hwyliau da am weddill y diwrnod.

Oes gennych chi unrhyw gyngor ar gyfer pobl eraill sy’n ystyried gwneud rhywbeth tebyg?

Nid yw rhedeg at ddant pawb, ond nid chi yw’r unig un. Rydw i wedi bod yn yr un sefyllfa â nifer ohonoch chi. Dechreuodd fy nhaith redeg gydag ychydig o ‘gerdded / jog’ a’r tro cyntaf y gwnes i redeg unrhyw bellter, rhedais ychydig llai na 2K! Doeddwn i ddim yn teimlo’n dda o gwbl y diwrnod hwnnw, ond rydw i wedi cadw ffydd yn fy hun ac wedi ceisio cadw’n bositif. Mae hynny’n hollbwysig i ni gyd.

Mae llawer o gynlluniau hyfforddi ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim, sy’n wych ond efallai na fyddant yn gweithio i bawb. Fy nghyngor i yw gwrando ar eich corff a cheisio datblygu eich cynllun hyfforddi a’ch trefn ddyddiol eich hun. Bydd hyn yn sicr yn eich helpu i fwynhau pob un tro y byddwch yn mynd allan i redeg a chyflawni’r hyn rydych eisiau ei gyflawni. Hefyd, ymunwch â chlwb rhedeg lleol a gallwch gael llawer iawn o wybodaeth mewn blogiau gan redwyr a’r gymuned. Ewch ati i fod yn rhan o bethau, a pheidiwch ag ofni rhannu eich syniadau a’ch profiad (gan gynnwys y rhai na wnaeth weithio!), bydd rhywun yn siŵr o werthfawrogi eich help yn fawr. Buan iawn y byddwch yn sylweddoli eich bod yn gwneud yn llawer gwell!

Os ydych am godi arian ar gyfer elusen, ewch amdani! P’un a ydych yn bwriadu cropian neu redeg, bydd pobl sy’n barod i roi rhodd yn awyddus i wybod am eich cynnydd, felly rhowch wybod iddyn nhw am eich cyflawniadau a rhoi ‘hunluniau’ neu luniau iddynt.

Ac yn bwysicaf oll, dywedwch ‘diolch’ – nid yw hynny yw’n costio ceiniog!

A oes gennych unrhyw fwriad codi arian yn y dyfodol?

Roedd fy mhrofiad o godi arian yn gadarnhaol ac yn galonogol, felly ‘ydw’ yw fy ateb. Hoffwn gofrestru fy niddordeb gyda #TîmCaerdydd a chefnogi rhai o’r digwyddiadau codi arian sydd ar y gweill.