Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Mae’n Gyfnod y Glas, ond mae’n un wahanol iawn i’r arfer

25 Medi 2020
Mae'n Gyfnod y Glas, ond mae’n un wahanol iawn i’r arfer

Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio’n galed dros yr haf i baratoi campws diogel i groesawu myfyrwyr a staff yn ôl. Fodd bynnag, bydd wythnosau cyntaf y myfyrwyr newydd yn brofiad hollol wahanol i’r un fyddai ei rhagflaenwyr wedi’i gael.

Mae’r pandemig parhaus wedi codi sawl her, ond mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn brysur yn gwneud cynlluniau i sicrhau nad yw myfyrwyr newydd yn colli allan ar yr wythnosau cyntaf ffurfiannol hynny.

Dywedodd Luke Evans, Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli wrthym: “Eleni, fel unrhyw un arall, roeddem am sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfle i ymgysylltu â’n hystod eang o weithgareddau. P’un a yw hyn yn golygu gwneud ffrindiau trwy gymdeithasau neu’n cymryd rhan yn ein grwpiau gwirfoddoli a gwasanaethau eraill, mae profiad y myfyriwr, ynghyd â chadw pawb yn ddiogel, wrth wraidd popeth a wnawn yn Undeb y Myfyrwyr. Er bod COVID-19 yn newid sut rydyn ni’n gweithredu, ond rydw i’n hynod falch o ymrwymiad ac ymroddiad pawb i wneud eleni yr un mor arbennig.”

Bydd myfyrwyr newydd yn falch o glywed y bydd cyfnod y Glas yn cael ei ymestyn eleni. Mae hyn yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan ond mae’n cadw nifer y bobl ar y safle ar lefel ddiogel.

Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu Glasfyfyrwyr yw dod i adnabod ei gilydd wrth gadw at ganllawiau o ran pellter cymdeithasol a chymdeithasu. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae tîm Undeb y Myfyrwyr wedi cynllunio amrywiaeth o ddigwyddiadau rhithwir fel y gall myfyrwyr fwynhau Cyfnod y Glas o gysur eu cartrefi eu hunain (gan wisgo beth bynnag yr ydych yn ei ddymuno) yn ogystal â gweithio gyda lleoliadau mewnol er mwyn ailagor yn ddiogel. Bydd angen i fyfyrwyr sydd am alw draw i’r Taf am beint archebu bwrdd ar gyfer sesiynau eistedd yn unig, ac archebu drwy ddefnyddio’r ap. Mae gan glwb nos Y Plas amserlen o ddigwyddiadau â phellter cymdeithasol, gan gynnwys parti UV ac Oktoberfest, ac er na fydd myfyrwyr yn gallu dawnsio tan yr oriau cynnar, bydd y gerddoriaeth, y cellwair a’r diodydd yn dal i lifo.

Rhan allweddol o unrhyw Gyfnod Glasfyfyrwyr yw cofrestru ar gyfer clybiau a chymdeithasau, ac er efallai eich bod yn meddwl y bydd yn amhosibl rhoi cynnig ar sglefrio iâ rhithwir, nid yw hynny wedi atal y tîm Rhowch Gynng Arni rhag llunio ystod anhygoel o ddigwyddiadau ar-lein y gallwch alw heibio iddynt. O griced i ddawnsio Bollywood, hwylio i ailddeddfu canoloesol, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddarganfod mwy a sgwrsio â gwahanol glybiau a chymdeithasau, yn ogystal ag ymuno â chwisiau, heriau dylunio, a sesiynau canu. Mae cyfle hefyd i ymuno â rhai o brosiectau anhygoel Gwirfoddoli Caerdydd mewn digwyddiadau rhithwir ac sy’n cynnal pellter cymdeithasol.

Er y bydd Cyfnod y Glas eleni yn edrych yn wahanol iawn i’r profiad yr ydym i gyd yn ei gofio, bydd y dull rhithwir hwn o gynnal pellter cymdeithasol yn helpu i gadw myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach yn ddiogel, wrth helpu myfyrwyr newydd i deimlo’n gartrefol, cael hwyl a gwneud ffrindiau gydol oes.