Skip to main content

DonateNewyddion

Rhoi profiadau i oedolion ifanc fydd gyda nhw am oes

17 Medi 2020

Yn y misoedd diweddar, mae llawer ohonom wedi gweld effaith methu â theithio oherwydd y pandemig byd-eang. Mae’n dod yn amlwg pa mor werthfawr ac arbennig yw’r profiadau hyn, a’r ffaith ein bod wedi cymryd nhw’n ganiataol tan yn ddiweddar.  

Mae rhaglen Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wirfoddoli, gweithio ac astudio dramor, ac elwa ar y profiadau na fyddent wedi’u cael fel arall. Buom yn siarad â Sammy Fagan (Cemeg 2018-) a dreuliodd haf 2019 yn addysgu plant yn Tanzania.  

Ro’n i’n awyddus i fynd i Tanzania i addysgu Saesneg, ond nes i lawer mwy na hynny! Ro’n ni’n cymryd rhan yn y dosbarth ac yn ystod amser chwarae, ac felly’n helpu’r plant i ddeall chwarae a rhannu gyda’i gilydd.  

Y peth mwyaf pleserus oedd gweld wynebau’r plant wrth glywed eu bod nhw wedi dweud yn iawn, ar ôl rhoi cynnig go dda arni! Roedd yr athrawon mor ddiolchgar am y deunyddiau ysgrifennu, ac roedd y boddhad a gafodd y plant wrth chwarae gyda swigod a balwnau wir yn gwneud i mi sylweddoli pa mor lwcus y’n ni. 

Cefais gipolwg ar rai o’r prif wahaniaethau rhwng ein diwylliannau yn sgil cael fy nhrochi yn ffordd o fyw hollol wahanol, o’r cytiau a’r cawodydd oer i’r drafnidiaeth gyhoeddus (weithiau’n cael ei rhannu gydag ieir neu eifr). Dwi bendant yn gwerthfawrogi rhai pethau’n fwy, pethau yr oeddwn yn eu cymryd yn ganiataol o’r blaen. 

 
Dysgais i fod yn fwy annibynnol yn ystod fy amser yno. Roedd gorfod dod o hyd i’n ffordd i’r ysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus, a chwilio drwy’r ardal yn ein hamser rhydd, wedi fy helpu i ddysgu gwneud penderfyniadau, a bod â llai o ofn cymryd risgiau. Dwi newydd ddechrau ar fy mlwyddyn ar leoliad mewn diwydiant yn rhan o’m hastudiaethau parhaus. Nid yw hyn yn codi ofn arnaf gymaint o ystyried fy mod wedi teithio dramor ac wedi gwirfoddoli yn Affrica. Mae dechrau swydd newydd i weld yn hawdd o’i gymharu. 

Y daith wnaeth ei gwneud hi’n glir i mi ‘mod i’n awyddus i fynd i mewn i faes puro dŵr, oherwydd pan ro’n i yno, dim ond dŵr potel oedd yn ddiogel i’w yfed. Fodd bynnag, roedd y plant yn yfed dŵr o’r tap ac er bod hyn yn edrych yn lân, doedd o ddim yn amlwg. Gwnaethom hefyd basio plant o ysgol wahanol yn casglu dŵr o afon fudr i’w yfed. Mae gennyf awydd cryf i helpu i newid hyn ac i roi mynediad i bawb at ddŵr yfed glân. 

Roedd fy nhaith i Tanzania yn brofiad rhagorol na fyddaf fyth yn ei anghofio. Roedd yn llawn hwyl ac yn agoriad llygad a heb os yn rhywbeth y byddwn yn argymell i fyfyrwyr eraill ei wneud. Mae’n brofiad sy’n rhoi dealltwriaeth uniongyrchol i chi am y byd, ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau bywyd amhrisiadwy.  

Mae Tanzania yn wlad na fyddwn erioed wedi ymweld â hi heb y cyfle gan Brifysgol Caerdydd ac os na fu cyllid, ni fyddwn fyth wedi gallu mynd. Drwy roi i’r rhaglen Cyfleoedd Byd-eang, rydych yn rhoi profiadau i oedolion ifanc fydd yn aros gyda nhw am oes. Nid yn unig hynny, ond gallai’r effaith y gallant ei chael ar y cymunedau y maent yn ymweld â nhw newid bywydau.  

Dysgwch sut y gallwch gefnogi myfyrwyr Caerdydd drwy’r rhaglen Cyfleoedd Byd-eang i ehangu eu gorwelion, cael profiad o ddiwylliannau eraill a datblygu sgiliau newydd wrth iddynt nesáu at fywyd ar ôl y brifysgol.