Cyswllt Caerdydd, News

Y teulu sy’n llawn cynfyfyrwyr Caerdydd

Dr Abdul C.M. Mae Rasheed yn fewnfudwr cenhedlaeth gyntaf o bentref bach gwledig yn Sri Lanka. Roedd yn Swyddog Ymchwil yn yr Ysgol Cemeg rhwng 1975 ac 1978. Mae wedi ymddeol o’i waith fel Uwch-beiriannydd Datblygu erbyn hyn,ond mae ganddo atgofion melys o’i amser yng Nghaerdydd. Mor felys oeddynt, iddo annog ei bedwar o blant i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe adunodd teulu Rasheed (yn ddigidol) i egluro sut beth yw gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, astudio yr un adeg â’ch brodyr a chwiorydd, a chael rhwydwaith wych o gefnogaeth.

Tad: Dr Abdul Rasheed

Sut wnaethoch chi ddod i weithio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Dr Rasheed: Roedd gan y Brifysgol enw da iawn, felly gwnes gais i weithio yno er mwyn parhau â fy astudiaethau ôl-raddedig. Cefais gynnig swydd ymchwil o yn yr Adran Gwyddoniaeth Gymhwysol yn yr Ysgol Cemeg i ymgymryd â phrosiect i adfer ffrydiau gwastraff organig.

Er ei fod amser maith yn ôl, rwy’n cofio fod y cyfnod cyfan yn gyfnod pleserus, nid oherwydd fy ngweithgareddau academaidd yn unig, ond oherwydd y nifer o bersonoliaethau dymunol wnes i ddod ar eu traws yn ogystal.

Pam wnaethoch chi annog eich plant i astudio yma?

Dr Rasheed: Fe wnes i annog fy mhlant i fynd i Brifysgol Caerdydd yn bennaf oherwydd y safon uchel a’r enw da mae wedi ei sefydlu dros gyfnod hir o amser. A minnau edi ei brofi yn uniongyrchol, roeddwn yn gwybod y byddai’n fudd mawr i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.

Plant: Hisham (MPharm 2018), Hana (MPharm 2006), Zahra (BSc 2010, MSc 2016, PGCert 2018), ac Uzman (BSc 2014)

Sut wnaeth brwdfrydedd eich tad dros Brifysgol Caerdydd effeithio eich profiad fel myfyriwr?

Hisham: Roeddwn wastad â diffyg dealltwriaeth o beth oedd gwaith fy nhad, ond pan oeddwn tua 12 oed fe gefais well ddealltwriaeth o gymaint yr oedd wedi datblygu ei addysg er mwyn cyrraedd lle’r oedd. 

Roedd ymdeimlad o anrhydedd, mewn gallu dweud fy mod wedi astudio yn yr un lle â gweddill fy nheulu. Rwy’n cofio’r diwrnod y cefais fy nerbyn i fynd i Gaerdydd yn glir, a pha mor hapus oeddwn i. Roedd yn golygu llawer i bawb, yn aelod olaf o’r pedwar brawd a chwaer i astudio yng Nghaerdydd! 

Hana: Roedd ein tad am  ni wneud ein penderfyniadau ein hunain am y dyfodol, ond roedd gweld pa mor frwdfrydig oedd e dros Brifysgol Caerdydd yn sicr yn ddylanwad cadarnhaol. Roedd yn braf gallu mynd i leoedd lle’r oedd ef wedi bod yn ystod ei amser yn y Brifysgol. Er bod llawer wedi newid, mae ambell beth dal yr un fath ac roedd yn hyfryd ein bod yn gallu siarad amdanynt.

Roedd llawer o groesi llwybrau pan oeddech yn fyfyrwyr. Beth oedd y manteision o astudio ar yr un pryd? 

Hana: Roedd fy chwaer yn astudio yn yr Ysgol Optometreg yr un pryd â mi, felly roedd yn braf gallu cwrdd am ginio neu baned. Wrth i mi agosáu at ddiwedd fy ngradd, a hithau’n cychwyn, roedd hefyd yn braf gallu cynnig cyngor ac awgrymiadau o’m mhrofiadau i yn y brifysgol iddi.

Zahra: Roedd yn braf iawn gallu cwrdd â fy chwaer am baned pan oedd pethau’n teimlo’n llethol fel glasfyfyriwr.

Os oedd angen gwybod am y lleoedd gorau am goffi, y mannau parcio am ddim, y llyfrgell distawaf yn ystod tymor yr arholiadau – byddai un ohonom â’r ateb!

Uzman: Roedd yn ddefnyddiol oherwydd os byddwn angen benthyg rhywbeth neu basio eitem ymlaen, byddwn yn gallu cwrdd â Zahra rhwng darlithoedd. 

Zahra a Hanna, rydych chi’ch dwy wedi dilyn llwybr eich tad ac wedi gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd. Sut beth oedd mynd o astudio yng Nghaerdydd i addysgu? 

Zahra: Roedd bod yn athro yn yr un ysgol ag oeddwn wedi astudio ynddi yn eithaf brawychus i ddechrau, gan fod fy hen ddarlithwyr yn gydweithwyr i mi erbyn hynny a minnau yn teimlo fel nad oeddwn lawer hŷn na fy myfyrwyr. Ond rhoddodd dad ambell awgrym i mi ar feistroli hyder a phwysigrwydd dod â chymwysiadau byd go iawn i’ch maes. 

Hana: Roeddwn wrth fy modd gyda’m mhrofiad o addysgu yn y Brifysgol, roedd yn werth chweil. Mae’r profiad fel myfyriwr yn hollol wahanol i weithio i’r Brifysgol ac addysgu. Mae’n agoriad llygaid gweld faint o waith caled, ymroddiad a brwdfrydedd a roddir i addysgu yn y Brifysgol.

Beth sy’n eich ysbrydoli chi am eich tad? 

Hisham: Ei ymroddiad a’i gymhelliant tuag at addysg, ag yntau wedi dod o gefndir lle na fyddai hynny wedi bod yn hawdd. 

Hana: Fel mewnfudwr cenhedlaeth gyntaf yn y 1970au, roedd fy nhad yn wynebu llawer o rwystrau heb rwydwaith cymorth, a gallaf ond ddychmygu pa mor anodd oedd hynny. Er gwaethaf hyn, aeth ymlaen i gael llawer o lwyddiant ac ni wnaeth golli ei agwedd gadarnhaol. 

Un o’r cymynroddion mwyaf mae wedi ei roi i ni yw’r ddealltwriaeth fod addysg yn fraint ac na ddylid fyth ei chymryd yn ganiataol.

Ydych chi’n meddwl bydd eich plant yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd? 

Hana: Byddaf yn sicr yn canmol fy mhrofiadau ym Mhrifysgol Caerdydd pan ddaw’r amser iddyn nhw ddewis lle byddent yn astudio. Byddai’n braf cael cenhedlaeth arall o’n teulu yn mynd i Gaerdydd, ond nhw fydd yn penderfynu yn y pen draw.