Cyswllt Caerdydd, News

Wythnos Iechyd Meddwl 2020: Mae gan bawb iechyd meddwl

Yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon rydym yn siarad gyda Rosie Moore (BSc 2017, Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol 2018-) a gafodd ei hysbrydoli gan ei thrafferthion ei hun gydag iechyd meddwl i ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth, ac ymgymryd â PhD mewn Atal Hunanladdiad.

Fe wnes i gychwyn fy nhaith gyda Phrifysgol Caerdydd yn 2014 fel myfyriwr israddedig yn y Gwyddorau Biofeddygol. Bu farw fy nhad yn sydyn y flwyddyn flaenorol, ac er fy mod yn dal eisiau mynd i’r brifysgol, roeddwn angen amgylchedd cyfarwydd a fy nheulu gerllaw. Fodd bynnag, roedd yr hyn â gefais gan Brifysgol Caerdydd yn llawer mwy nag addysg sefydliad Grŵp Russell o fewn pellter rhesymol i’m cartref. Roedd cymuned hynod gefnogol o staff, ffrindiau a chyfoedion yno, a’u harweiniad a’u hamynedd hwythau ganiataodd i mi gwblhau fy astudiaethau wrth flaenoriaethu fy iechyd meddwl.

Cefais ddiagnosis o iselder a gorbryder am y tro cyntaf yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol. Roedd fy mlwyddyn gyntaf wedi gwibio heibio, ond wrth i’r wefr o fod yn fyfyriwr newydd basio ac i’r gwaith ddwysau, agorwyd llifddorau yn fy meddwl a dechreuodd yr holl feddyliau, teimladau a galar oeddwn yn anymwybodol wedi bod yn dal yn ôl, lifo allan. Rwy’n gwybod nad yw’r term ‘breakdown’ yn cael ei ddefnyddio yn gyffredinol bellach, ond dyna’n union sut oedd yn teimlo. Yn ystod y cyfnod hwnnw o fy mywyd, roedd fy ngallu i weithredu fel arfer wedi chwalu.

Pan gefais y diagnosis, rhoddwyd cyffuriau gwrth-iselder i mi a chefais wybod bod 1 o bob 4 oedolyn yn y DU yn profi salwch meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau. Roeddwn yn teimlo rhyddhad ac arswyd yr un pryd fod beth oeddwn yn ei brofi mor gyffredin – os yw 1 o bob 4 person wedi teimlo fel hyn, meddyliais, pam nad yw pawb yn siarad am y peth?! Pam na wnaethom ddysgu am iechyd meddwl yn yr ysgol ynghyd â diogelwch tân a sut i reidio beic?

Fe wnaeth cwnsela’r Brifysgol fy helpu’n arw. Mae’r tîm cwnsela a lles wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i mi ac rwyf yn hynod ddiolchgar. Yn ogystal, roedd fy nhiwtoriaid yn deall yn llwyr, drwy wneud yn glir bod fy iechyd yn bwysicach na fy ngraddau a thrwy helpu gyda phethau ymarferol fel fy arwain drwy’r weithdrefn amgylchiadau esgusodol.

Ar ôl i mi dorri lawr, dechreuais ddarllen llawer mwy am iechyd meddwl. Roedd hyn tua’r un pryd ag i mi ddechrau astudio niwroanatomeg fel rhan o’m cwrs. Fe sylweddolais er bod gennyf ddiddordeb mewn iechyd dynol, roeddwn yn llawer mwy chwilfrydig am y penderfynyddion cymdeithasol i iechyd – ac iechyd meddwl yn enwedig – yn hytrach na’r bathoffisioleg. Penderfynais ymgymryd â gradd meistr mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol, ac rwyf yn gyffrous iawn i gychwyn fy PhD mewn Atal Hunanladdiad fis Hydref.

Rwy’n credu’n angerddol fod angen mwy o ymchwil i mewn i iechyd meddwl. Rydych dair gwaith yn fwy tebygol i farw o hunanladdiad na mewn damwain ffordd.1 Yn hanfodol, fel damweiniau ffordd, gellir atal hunanladdiad gyda’r ymyriadau iawn. Felly mae’n hollbwysig ein bod yn deall sut gallwn leihau’r risg o hunanladdiad ac achub bywydau.

Credaf fod ymwybyddiaeth iechyd meddwl wedi gwella’n esbonyddol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn rhannol oherwydd ymgyrch ymwybyddiaeth ‘Amser i Newid’ sy’n anelu at dorri’r stigma ynglŷn ag iechyd meddwl. Mae’n anrhydedd cael bod yn wirfoddolwr Amser i Newid, ac mae’n braf dechrau sgyrsiau agored a gonest am iechyd meddwl a lles gyda phobl sydd o bosibl erioed wedi siarad amdano ynghynt – ac yn aml heb sylweddoli fod gan bawb iechyd meddwl!

Os ydych yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, siaradwch â rhywun. Unrhyw un. Gyda ffrind, eich partner, llinell gymorth (mae Papyrus yn llinell gymorth gwych ar gyfer pobl ifanc ac mae ganddynt wasanaeth neges destun fel nad oes rhaid i chi siarad yn uchel!) neu yn ddelfrydol, cwnselydd neu feddyg teulu. Mae gan bawb iechyd meddwl, felly os ydych yn siarad â rhywun am eich un chi, bydd o fudd i chi ac mae’n bosibl y gwneith wneud iddyn nhw sylweddoli eu bod yn gallu bod yn fwy agored am eu hiechyd meddwl eu hunain – mae sgyrsiau agored yn gallu torri stigma ac achub bywydau!

Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd yn gweithio’n galed i ddarganfod mwy am iechyd meddwl. Maent yn dod o hyd i dechnegau diagnosis cynt a gwell, yn creu triniaethau mwy effeithiol wedi’u personoli, ac yn codi ymwybyddiaeth ac yn mynd i’r afael â stigma. Gallwch helpu i gefnogi’r ymchwil yma drwy godi arian neu roi rhodd.

1| https://www.samaritans.org/wales/news/suicide-kills-three-times-more-people-road-traffic-accidents-we-urgently-need-act/