Cyswllt Caerdydd, News

Fe wnaeth fy amser yng Nghaerdydd fy mharatoi’n drylwyr

Cymhwysodd Emily Chestnut (BN 2019) fel nyrs ddiwedd 2019 ac mae’n gweithio yn Ysbyty’r Mynydd Bychan, Caerdydd. Mae hi’n gweithio ar y ward gastroenteroleg a chlefydau heintus A7, sy’n darparu triniaeth ar gyfer cleifion COVID-19 ar hyn o bryd. Mae hi’n un o’r miloedd o gynfyfyrwyr Caerdydd sydd ar reng flaen yr argyfwng byd-eang.

Rwyf wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Cefais fy magu yn Sir Benfro ac roeddwn yn gwybod fy mod eisiau aros yng Nghymru i fynd i’r brifysgol. Roedd Caerdydd yn ymddangos fel y lleoliad perffaith: digon pell oddi cartref; ond digon agos i fynd yn ôl pan oeddwn i eisiau. Mae Caerdydd yn ddinas hardd, ac rwyf wastad wedi bod yn hoff o ba mor gyfeillgar a chefnogol oedd y Brifysgol. Graddiodd fy chwaer hynaf o Gaerdydd fel nyrs hefyd, ac roeddwn yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd a gafodd hi.

Roeddwn yn ffodus i gael lleoliadau gwych fel myfyriwr nyrsio. Es i i’r uned Damweiniau ac Achosion Brys, yr uned Gofal Dwys, ac amrywiaeth o wahanol wardiau meddygol/llawfeddygol. Fe baratôdd y profiadau hyn i mi weithio’n amser llawn yn Ysbyty’r Mynydd Bychan. Roeddwn eisoes yn gwybod sut roedd yr ysbyty yn gweithredu a sut roeddynt yn gweithio fel tîm, ac wedi creu perthnasoedd ag aelodau eraill o’r staff.

Er na allai neb fod wedi rhagweld beth rydym yn delio ag e ar hyn o bryd, mae fy amser yng Nghaerdydd wir wedi fy mharatoi. Cynhaliwyd senarios ymarferol cyson oedd yn ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth a’n gallu i wneud asesiadau clinigol mewn sefyllfaoedd argyfwng. Mae’r arbenigedd ymarferol yma wedi fy nysgu i adnabod claf sy’n dirywio, a sut i ddelio â sefyllfaoedd argyfwng.

Yn ystod yr argyfwng presennol, nid yw fy ngwaith fel nyrs wedi newid lawer. Mae nyrsio’n hanfodol i bob claf gwael. Rwyf eisiau cynnig gofal o’r safon uchaf i bawb, ni waeth beth fo’r rheswm eu bod yn yr ysbyty. Beth sydd wedi newid yw’r pwysau yn y gwaith o ganlyniad i salwch a phrinder staff. Rwyf hefyd yn gweld fod y cyflenwadau sydd gennym yn y GIG wedi cael eu heffeithio. Nid yw’n cymryd hir i gleifion redeg allan o ddillad eu hunain, byrbrydau, a chynhyrchion fel sebon, past dannedd a siampŵ. Mae’r rhain yn bethau rydym yn ceisio darparu, ond nid oes gennym ddigon ohonynt i gyflenwi ysbyty cyfan.

Er gall fod yn anodd, mae’n fraint gallu helpu a defnyddio fy sgiliau i fod o fudd ar y rheng flaen. Ni allwn ei ddychmygu unrhyw ffordd arall. Mae’n sicr yn wahanol i beth mae unrhyw un wedi delio ag e o’r blaen. Mae pawb yn ofni’r feirws ac yn poeni a yw ein PPE yn ddigonol, ac rydym i gyd yn mynd adref yn bryderus ein bod yn dod â’r feirws gyda ni. Mae rhieni wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu plant a’u teuluoedd. Rydym i gyd yn dibynnu ar ein gilydd a’r cyfeillgarwch rhyngom ni i ddal ati.

Un o’r heriau mwyaf yw peidio â derbyn ymwelwyr i’r ysbyty. Mae bod yn yr ysbyty yn frawychus iawn, a gall ein cleifion deimlo’n ynysedig ac ar eu pennau eu hunain. Maent wedi’u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd a’u hanwyliaid. Fwy nag erioed, rwy’n sylwi ar staff yn gweithredu i sicrhau ein bod yn cefnogi ein cleifion a’u teuluoedd yn emosiynol yn y ffordd orau bosibl. Gall hynny olygu aros am sgwrs, sychu dagrau rhywun i ffwrdd pan maent yn teimlo ar eu pennau eu hunain, neu afael yn eu llaw yn ystod eu horiau olaf.

Mae fy nghydweithwyr ar ward A7 wedi bod yn nerth i mi. Ni allwn ddychmygu gwneud hyn hebddynt. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm go iawn ac os oes unrhyw beth rwyf angen gwybod, neu’n ansicr amdano, mae cydweithwyr yno i helpu. Rwy’n teimlo fy mod yn cael llawer o gefnogaeth. Ar ôl shifft anodd, nid wyf yn oedi cyn siarad â rhywun. Mae’n galonogol iawn gwybod ein bod i gyd yn yr un cwch, a’n bod yn gweithio fel tîm i gadw’n pennau uwchlaw’r dŵr.

Mae’r ffrindiau gwnes i raddio gyda nhw yn ail deulu i mi. Roeddwn yn arfer eu gweld nhw ar ddiwrnodau rhydd; erbyn hyn rwy’n siarad â nhw yn rheolaidd dros y ffôn neu’n cael sgwrs wrth fynd heibio ein gilydd yn yr ysbyty. Rydym hefyd yn chwerthin gyda’n gilydd yn ystod nosweithiau cwis ar ein ffonau symudol. Mae’n helpu i wybod ein bod i gyd yn mynd drwy’r un peth.

Rwy’n teimlo bod rhedeg ar fy niwrnodau rhydd yn helpu lawer. Mae awyr iach yn fy helpu i glirio fy meddwl, ac mae gwthio fy hun wrth redeg yn helpu i dynnu fy sylw oddi ar unrhyw bryderon. Weithiau ar ôl shifft hir, ni wna i symud oddi ar y soffa gan fy mod wedi ymlâdd. Gall fod yn anodd tynnu fy meddwl oddi ar y gwaith a dychwelyd i fywyd y tu allan iddo. Ond rwy’n gwybod bod hynny’n iawn, a bod angen yr amser yma arnaf i brosesu. Rwy’n ffodus i gael cyd-letywyr anhygoel sy’n deall fy sefyllfa ac yn rhoi cymaint o gefnogaeth i mi.

Nawr yn fwy nag erioed, mae’n braf gweld haelioni a charedigrwydd pobl. Mae ymateb a chefnogaeth y cyhoedd wedi bod yn anhygoel. Mae’r wardiau wedi’u gorlifo â rhoddion o lechi a gwefryddion ffôn i gleifion. Mae bwytai lleol wedi bod yn gwneud bwyd i ni fwyta ar ein hegwyl, ac mae pobl wedi gwneud misyrnau wedi’u hargraffu’n 3D a bandiau addasu wedi’u gwau ar gyfer ein masgiau wyneb. Mae staff y GIG mor ddiolchgar am bopeth mae pobl wedi’i ddweud, ei roi a’i wneud i ni.

Mae’r clap am 8 o’r gloch nos Iau yn dod â dagrau i lygaid y staff. Mae’n helpu’r tu hwnt i’r dychymyg. Rydym yn gwybod bod y cyfyngiadau symud ac ymneilltuo oddi wrth eich anwyliaid a’ch ffrindiau yn anodd. Mae’n gyfnod brawychus iawn i bawb, ond rydym wedi gwneud mor dda hyd yn hyn, ac mae ymrwymiad pawb i gyfyngu eu symudiadau’n gwneud gwahaniaeth pwysig ar ein cyfer ni yn y GIG, ac i’n cleifion.

Bydd rhoddion i Gronfa Diogelu COVID-19 Prifysgol Caerdydd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer lles meddyliol a chorfforol myfyrwyr a staff – gan gadw pobl a mannau yn ddiogel drwy gymuned Prifysgol Caerdydd benbaladr.