Skip to main content

Cyswllt CaerdyddGyrfaoedd

Siarad â chynulleidfa fyd-eang

31 Ionawr 2020

Siaradon ni â Shuting Cai (sydd hefyd yn cael ei galw’n Lily), myfyriwr Cyfrifeg a Chyllid ôl-raddedig a gymerodd ran yng nghynllun ‘Ieithoedd i Fusnes’.

A hithau’n enedigol o Tsieina, ymgymerodd Lily â datblygiad busnes ac ymchwil i’r farchnad yn yr iaith Mandarin ar gyfer busnes harddwch ar-lein o’r radd flaenaf yng Nghaerdydd, Escentual. Cyflawnodd sefydlydd Escentual, Rakesh Aggarwal, ei MBA yng Nghaerdydd ym 1999.

Mae myfyrwyr o dros 130 o wledydd yn astudio yma. Fel y daeth i’r amlwg i dîm Escentual, mae gweithio gydag un o 7,900 o fyfyrwyr o gymuned ryngwladol ac Ewropeaidd y Brifysgol yn gallu cynnig manteision go iawn i’ch busnes. Os ydych am allforio neu ehangu i diriogaethau newydd neu fagu perthnasoedd â chyflenwyr a chwsmeriaid rhyngwladol, gall arbenigedd myfyriwr fod yn amhrisiadwy. Ynghyd â’u sgiliau iaith frodorol a’u hymwybyddiaeth ddiwylliannol, maent yn feistri ar y sianeli cyfathrebu a’r ymddygiad proffesiynol sydd eu hangen i wneud busnes yn eu gwledydd brodorol.

Yn achos Lily, roedd hyn yn golygu cynorthwyo gyda lansio cynhyrchion newydd a rhoi gwybodaeth i wella strategaeth ryngwladol y busnes ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

“Roedd y rôl yn cynnwys ymchwil a chasglu gwybodaeth am y tueddiadau presennol yn y diwydiant harddwch yn Tsieina. Fy ngwaith i oedd canfod cyfleoedd i werthu yn y farchnad Asiaidd a rhoi mewnweliadau i rwydweithio cymdeithasol Tsieineaidd.”

Mae hi’n disgrifio ei hinterniaeth fel “cyfle gwerthfawr” a’i galluogodd hi i ddod i arfer â newid rhwng Mandarin a Saesneg mewn cyd-destun proffesiynol; datblygu’r gallu i weithio yn ôl terfynau amser tyn ac adeiladu ar ei hymwybyddiaeth fasnachol bresennol.

O safbwynt Escentual, mae’r profiad wedi bod yn gwbl gadarnhaol hefyd. Mae Chelsey Edmunds, Golygydd Ymgyrchoedd, yn dweud bod mewnbwn Lily wedi galluogi’r busnes i ddeall eu cynulleidfa Tsieineaidd yn well a darganfod bylchau yn eu marchnata lle gallen nhw ychwanegu gwerth at eu cwsmeriaid.

Mewn gwirionedd, mae gweithlu Escentual wedi cael ei gyfoethogi drwy ei waith gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae’r busnes wedi gwneud y Brifysgol yn rhan greiddiol o’u strategaeth dyfu, cynnal cipolygon; interniaethau â chyflog; Blynyddoedd Lleoliad Proffesiynol a recriwtio graddedigion diweddar ar gyfer swyddi parhaol.

Yn ôl Kate Czyrko, rheolwr Tîm Profiad Gwaith Cysylltiadau ar gyfer y Dyfodol:

“Mae’r ffordd y mae Escentual wedi gweithio gyda ni wedi bod yn wers i fusnesau bach a chanolog ynghylch sut i ddenu talent newydd. Maent wedi llwyddo i godi eu proffil fel cyflogwyr dymunol i raddedigion, wrth fachu ar y manteision niferus sy’n dod yn sgîl lletya interneion myfyrwyr o ledled y byd. Rydym yn edrych ymlaen at berthynas waith hir a chynhyrchiol â nhw.”

Rydych yn gallu pennu union fformat a chynnwys yr interniaeth, ar y cyd â’r myfyriwr yr ydych yn ei ddewis. Mae Tîm Profiad Gwaith Cysylltiadau ar gyfer y Dyfodol yn y Brifysgol yn cynnig arweiniad i chi, a bydd yn rheoli’r broses recriwtio pen-i-ben drosoch chi – pob dim, o’ch helpu i greu disgrifiad rôl i hyrwyddo’r rôl i fyfyrwyr, croesawu ceisiadau a chynnal y rownd hidlo gyntaf ar eich rhan. Gweithiodd Lily gydag Escentual yn rhan-amser drwy gydol y semester, ond os oes angen cwblhau prosiect ar sail amser llawn, gall y tîm eich cynghori ynghylch yr amserau gorau i hyrwyddo’r cyfle i fyfyrwyr hefyd.

Wedi’ch ysbrydoli gan brofiadau Lily gydag Escentual? Am gael gwybod rhagor? Rhagor o wybodaeth am gynllun Ieithoedd i Fusnes a ffyrdd eraill gall eich busnes fachu ar dalent a syniadau myfyriwr o Brifysgol Caerdydd drwy ebostio workexperience@cardiff.ac.uk