History, Archaeology and Religion, News, Our Alumni, Uncategorized @cy

Tu fewn i Sain Ffagan

Elen Phillips (right) with peace activist, Thalia Campbell, at an event to celebrate International Women’s Day at St Fagans.
Elen Phillips (ar y dde) gyda’r ymgyrchydd heddwch, Thalia Cambpell, mewn digwyddiad i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Sain Ffagan.

Ar ôl llwyddiant diweddar Amgueddfa Sain Ffagan yng nghystadleuaeth Amgueddfa’r Flwyddyn 2019, gofynnon ni i un o’r prif guraduron am y rhesymau dros y llwyddiant a chysylltiadau’r Amgueddfa gyda Phrifysgol Caerdydd.

Ar ddechrau Gorffennaf, fe wnaeth Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ennill gwobr Amgueddfa’r Flwyddyn Art Fund gan guro pedwar o gystadleuwyr eraill yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys y V&A Dundee a’r HMS Belfast.

Agorodd yr Amgueddfa awyr agored i’r cyhoedd ym 1948 ac mae bellach yn cynnwys dros 40 o arddangosfeydd yn dangos datblygiad hanes a diwylliant Cymru, o’r amser cynhanesyddol hyd at y presennol, yn cynnwys: tai crwn o Oes yr Haearn, Llys Tywysogion Cymraeg o’r 12fed ganrif, Sefydliad y Gweithwyr Oakdale a Chastell Sain Ffagan ei hun.

Disgrifiodd y prif guradur hanes cyfoes a chymunedol, a chyn-fyfyrwraig Prifysgol Caerdydd, Elen Phillips (MA 2005), y wobr fel ‘goron’ i’r flwyddyn

Disgrifiodd y prif guradur hanes cyfoes a chymunedol, a chyn-fyfyrwraig Prifysgol Caerdydd, Elen Phillips (MA 2005), y wobr fel ‘goron’ i’r flwyddyn, yn enwedig ar ôl i’r amgueddfa gwblhau ailddatblygiad Creu Hanes yn 2018, gwerth £30 miliwn, a oedd wedi trawsnewid profiad yr ymwelwyr trwy agor orielau a gweithdai newydd.

Yn ôl y beirniaid y gystadleuaeth, dyma esiampl bod yr Amgueddfa wedi dangos ‘dychymyg eithriadol’ ac wedi sicrhau canlyniadau anhygoel dros y flwyddyn ddiwethaf.

Nododd Ms. Phillips bod cyfraniadau nifer fawr o bobl wedi arwain at y llwyddiant, yn ogystal â phwyslais yr Amgueddfa ar gyd-greu hanes gyda phobl Cymru:

‘Mae’r wobr yn eiddo i’r miloedd o unigolion, gwirfoddolwyr a chymunedau sydd wedi cyfrannu eu straeon a’u llafur i’r Amgueddfa dros y blynyddoedd.’

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o’r sefydliadau sydd wedi mabwysiadau perthynas agos gyda’r amgueddfa dros y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi cydweithio sawl gwaith gan gynnwys ar y prosiect Traces yn 2017, i ddatblygu ap adrodd straeon ar gyfer yr Amgueddfa.

Mae’r ddau hefyd wedi cydweithio ar brosiectau addysgol i bobl ifanc, fel cystadleuaeth dylunio genedlaethol yr Ysgol Cymraeg Pensaernïaeth, Shape My Street. Mae’r gystadleuaeth, sy’n cynnal ei diwrnod gwobrwyo yn yr Amgueddfa, yn annog plant ysgol gynradd i gysylltu gyda’u cymunedau trwy ddylunio cymdogaethau newydd, gan integreiddio addysg gwyddoniaeth a thechnoleg gydag ymarferion dylunio creadigol.

Yn ogystal â hyn, arwyddodd y Brifysgol a’r Amgueddfa Genedlaethol Cymru gytundeb o ddealltwriaeth yn 2015, gyda’r nod o weithio mewn meysydd ymchwil a rennir gan y ddau sefydliad.

Yn wir, yr ‘ethos cyfranogol’ hyn mae Sain Ffagan wedi ei fabwysiadu ‘fu’n gyfrifol am ein llwyddiant yn y gystadleuaeth’, yn ôl Ms Phillips. Nododd hefyd y cysylltiad addysgol rhwng Prifysgol Caerdydd a Sain Ffagan sydd wedi bod yn bwysig yn bersonol i hi:

‘Fe wnes i gwblhau gradd MA mewn Astudiaethau Gwerin ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2004-05. Ar y pryd, roedd y radd hon yn cael ei chynnig ar y cyd gyda Sain Ffagan a chyfran helaeth o’r dysgu yn digwydd yn yr Amgueddfa.

O ganlyniad, mae rhai o’r darlithwyr bellach yn gydweithwyr agos i fi. Dw i’n edrych nôl ar fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd gydag atgofion hapus. Roeddwn yn fy ugeiniau canol ar y pryd, ac wedi cael sawl blwyddyn ym myd gwaith cyn dychwelyd i’r ddarlithfa. Dw i’n credu bod y seibiant hwnnw o fyd addysg wedi bod yn llesol i fi, ac wedi dylanwadu’n bositif ar fy nghyfnod yng Nghaerdydd.’

Mae’r berthynas rhwng y Brifysgol a chymunedau Caerdydd gyda’r Amgueddfa  wedi bod yn ffrwythlon iawn. Mae dyfodol yr Amgueddfa yn edrych yn ddisglair ac yn adlewyrchu cryfder a chyfoeth diwylliant Caerdydd a Chymru.