Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Gwirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol

29 Awst 2019

Gwirfoddolodd Rhys Fletcher (BA 2015) i gefnogi Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Fe holon ni Rhys sut oedd ei brofiad, a pham ei fod wedi dewis cymryd rhan.

Pam wnes di ddewis dod yn Llysgennad Cynfyfyrwyr?

Fe wnes i astudio am dair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd a chael amser gwych – nid yn unig yn academaidd ond hefyd drwy wirfoddoli a chwaraeon. Fe gyfunodd y cyfan i greu profiad cofiadwy yng Nghaerdydd.

Felly i mi, mae’n gyfle i roi yn ôl i’r Brifysgol, ac mae’n ffordd dda i gwrdd â chynfyfyrwyr eraill. Rydych chi’n cwrdd â llawer o wahanol bobl a phobl ddiddorol.

Felly, sut brofiad oedd e’?

Ro’n i’n gwisgo’r crys t glas gyda logo Prifysgol Caerdydd ac, er mod i yng Ngogledd Cymru yn yr Eisteddfod, roedd pobl yn gweld y crys t ac yn dechrau sgyrsiau gyda mi fel petaem ni’n adnabod ein gilydd fel ffrindiau gan fod y ddau ohonom ni wedi mynd i Brifysgol Caerdydd.   Dwi’n meddwl mai dyna uchafbwynt fy amser yn yr Eisteddfod.

Rydw i’n hoffi siarad gyda phobl ac mae bod yn Llysgennad Cynfyfyrwyr yn rhoi’r cyfle i mi glywed llawer o wahanol straeon, gan bob math o wahanol bobl. Fe ges i un o fy sgyrsiau mwyaf diddorol gydag athro o Brifysgol Caerdydd a oedd wedi bod yn addysgu hanes ers y 1960au – roedd ganddo lawer o straeon difyr am y Brifysgol a sut y mae hi wedi newid dros amser.

Beth wnaeth i ti fod eisiau gwirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

Mae’r Eisteddfod yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig. Mae pobl wedi gofyn i mi pam wnes i ddewis Prifysgol Caerdydd yn lle mynd i Loegr; dwi’n meddwl bod aros yng Nghymru a dathlu’r diwylliant yn rhan o’r hunaniaeth Gymreig.

Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig iawn i gynfyfyrwyr ymuno mewn digwyddiadau fel hyn a fydd yn helpu i godi proffil y Brifysgol.

Beth oedd dy rôl yn yr Eisteddfod?

Ro’n i ar stondin Prifysgol Caerdydd lle maen nhw’n cynnal digwyddiadau a sgyrsiau. Ar brynhawn dydd Gwener roedd digwyddiad cymdeithasol arbennig ar gyfer cynfyfyrwyr – cyfle gwych i mi roi help llaw! Fe wnes i weithio gyda thîm y Brifysgol i baratoi ar gyfer y digwyddiad a chroesawu pobl. Mae’n dda siarad ag eraill am eu profiad o’r Brifysgol a chreu cysylltiadau newydd.

Dwi’n meddwl mai un o’r pethau pwysicaf y gall pobl ei wneud yma yw rhannu eu straeon  gan fod hynny’n gallu ysbrydoli pobl sy’n meddwl am fynd i’r Brifysgol i ddewis Caerdydd.

Un peth yw gweld y lle mewn prosbectws, ond mae’n well clywed amdano gan rywun sydd wedi bod yno.

A yw profiad Rhys wedi eich ysbrydoli chi? Gallwch un ai rannu eich stori eich hun neu gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan.