Skip to main content

DigwyddiadauEin Cyn-fyfyrwyrNewyddion

Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2019

31 Gorffennaf 2019
Eisteddfod Genedlaethol 2013.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cyffrous yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Conwy a fydd yn archwilio diwylliant Cymru o’r presennol a’r gorffennol. Bydd y digwyddiadau, yn mhabell y Brifysgol ar y maes, yn trafod amrywiaeth o bynciau fel llenyddiaeth, etifeddiaeth, hunaniaeth a llawer mwy.

Mae’r cyfraniad y Brifysgol at yr Eisteddfod yn rhan o ymrwymiad ehangach i’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn gwahodd graddedigion i dderbyniad diod arbennig ar 9 Awst (15.15) lle fydd gyfle i gymdeithasu a rhannu eu straeon am Gaerdydd a’u bywydau ers hynny.

Gall ymwelwyr ddod i glywed academyddion o’r Brifysgol, yn cynnwys, Dr Dylan Foster Evans (pennaeth Ysgol Y Gymraeg), yn trafod y defnydd o iaith trwy graffiti, waliau a chestyll a Dr Huw Williams (Deon i’r Gymraeg) yn trafod hanes Cymru gan ddechrau gyda gwaith William Salesbury, sy’n enwog am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.

Mae’r Brifysgol hefyd yn rhoi’r cyfle i ymwelwyr archwilio adnodd pwysig i’r iaith sef y Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC). Mae’r corpws yn agosâu at ei darged o 10 miliwn o eiriau Cymraeg cyfoes a fydd yn cael eu harddangos i’r cyhoedd cyn y lansiad llawn flwyddyn nesaf. Mi bydd digwyddiadau CorCenCC ar y 6 a 7 o Awst ym Mhabell Prifysgol Caerdydd, yn ogystal â’r babell Cymdeithasau ar yr un diwrnodau.

Bydd y Brifysgol hefyd yn croesawu Osian Rhys Jones, aelod staff ac enillydd y Gadair yn 2017, i drafod y gynghanedd a rhoi’r cyfle i’r cyhoedd ddysgu mwy am y farddoniaeth heriol hon.

Bydd dadl flynyddol yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn canolbwyntio ar ddyfodol newyddiaduraeth brint yng Nghymru gyda phanel o arbenigwyr gan gynnwys pennaeth newydd Golwg, Sian Powell (BA 2009, MscEcon 2011). Mae cyn-ddisgybl a chyn-ddarlithydd y Brifysgol yn dechrau ei rôl newydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, felly rydym yn aros yn eiddgar am ei barn ar y diwydiant.

Mae gwasanaeth newyddion digidol y Brifygol yn dychwelyd eto i ‘Lais y Maes’, lle bydd disgyblion y Brifysgol yn ymuno â gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Yn eu plith fydd Liam Ketcher (BA 2018) ac Ellen Davies (BA 2018) o ITV Cymru Wales, a fydd yn rhoi cyngor a rhannu eu sgiliau gyda’r ddisgyblion.

Unwaith eto mae’r Brifysgol wedi trefnu nifer o weithgareddau ymarferol cyffrous ym Mhentref Gwyddoniaeth yr Eisteddfod, lle gall ymwelwyr:

• Ymweld â’r arddangosfa gwrthgyrff ardderchog i ddarganfod, gyda chymorth dafad arbennig o’r enw Darwen, sut mae gwrthgyrff yn amddiffyn ni o germau a yn helpu dynol ryw i ddatblygu meddyginiaethau gwrthgyrff newydd
• Dysgu mwy am wenyn mêl a’u pwerau ‘hudolus’ a sut maen nhw’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddownyr Cymreig
• Darganfod y rhinweddau anhygoel y polymerau sy’n cael eu datblygu i greu peli rygbi gwrth-dŵr a deunyddiau newydd i helpu iechyd pobl dynol.

Fel y byddech chi’n disgwyl, mae rhywbeth ar gyfer pawb – felly gobeithiwn eich gweld yn Llanrwst!