News, Our Alumni

Beth nesaf i Gymru yn y byd? 6 o bethau y gwnaethom eu dysgu

1,008 diwrnod ar ôl i Brydain bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac ychydig oriau yn unig cyn yr oedd hynny i fod i ddigwydd, yr unig sicrwydd yw na fydd hynny’n digwydd. Eto.

Lle y mae Cymru’n sefyll yng nghanol yr ansicrwydd cynyddol yma? Ar 27 Mawrth, fe groesawodd Canolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd (ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru) banel arbennig o academyddion a chynfyfywryr i ddadlau hynny.

Beth wnaethom ei ddysgu?

1 – Efallai bydd y DU yn gorfod talu er mwyn chwarae rhan

Nid yw gadael yr UE yn gorfod golygu ymadael a’i rhaglenni, yn ôl yr Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd.

Dywedodd y gallai’r DU barhau i fod yn rhan o raglenni addysgu ac ymchwil fel Erasmus+ a Horizon 2020.

2 – Nid yw diplomyddiaeth ar gyfer gwleidyddion yn unig

Fe dynnodd Dr Rachel Minto o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd sylw at y rôl y mae cyrff anllywodraethol yn chwarae mewn diplomyddiaeth – fel lobïo dros achosion nad ydynt yn cael digon o sylw gan y wladwriaeth yn eu tyb nhw a chynrychioli Cymru fel amgylchedd sydd ar wahân.

Beth bynnag fydd y trosolwg ar ôl Brexit, bydd eu rôl yn eithriadol o bwysig.

3 – Cymru sydd â’r fargen orau o’i bath yn Ewrop – am nawr

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru well mynediad “is-wladwriaethol” i Ewrop na unrhyw genedl debyg arall, yn ôl Dr Elin Royles. Mae gan Gymru achrediad llawn i gynrychioli ei hun yn annibynnol mewn cyfarfodydd a phwyllgorau allweddol. A fydd hi’n bosib cynnal y statws hwn?

4 – Mae angen diwygio ein hundeb ein hunain

Mae datganoli yn 20 mlwydd oed, ond mae fel petai rhai corneli o Whitehall heb hyd yn oed glywed am y peth.

Dyna farn Syr Emyr Jones Parry, cyn-Gynrychiolwr Parhaus y DU i’r Cenhedloedd Unedig (BSc 1968, PgDip 1969, Hon 2003). Er mwyn i Gymru gael ei chynrychioli ar y llwyfan rhyngwladol, rhaid i ni sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed adref yn gyntaf.

5 – Dim ond un rhan o’r pos yw Brexit

Dim ond un rhan o’r pos yw Brexit i Eluned Morgan (Hon 2012), Y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg: mae’r rhyfel masnachu rhwng China a’r Unol Daleithiau, y shifft yn yr economi fyd-eang a’r cynnydd mewn diffyndollaeth i gyd yn heriau cyfartal.

Er mwyn bod yn “genedl eangfrydig sy’n noddfa”, rhaid i bob un o weinidogion llywodraeth Cymru fod yn ymwybodol o gysylltiadau tramor.

6 – Mae cyfleoedd yn bodoli o hyd

Mae’n amhosib diflannu oddi ar y llwyfan rhyngwladol hyd yn oed pe byddech yn dymuno gwneud hynny, mynna Dr Christopher Huggins. Gan ddyfynnu enghreifftiau o’r rhanbarthau Swisaidd a’r dinasoedd Norwyaidd sy’n ymwneud â’r UE o’r tu allan, roedd e’n hyderus, er y byddai’r mecanweithiau ffurfiol yn diflannu o bosib, “bydd gobaith o hyd.”