Skip to main content

Cyswllt CaerdyddPam Prifysgolion?

Pam Prifysgolion?

17 Rhagfyr 2018

Mae natur a phwrpas Prifysgol wedi bod yn destun sydd wedi digio a chynddeiriogi llawer ers i Cardinal Newman geisio ateb y cwestiwn bron i 200 mlynedd yn ôl.

Why Universities?

Ychydig iawn, fodd bynnag, sydd wedi ymateb mewn ffordd mor huawdl â Cardinal Newman: “A habit of mind is formed, which lasts through life, of which the attributes are, freedom, equitableness, calmness, moderation, and wisdom; or what I have ventured to call a philosophical habit. This then I would assign as the special fruit of the education furnished at a university”.

Heddiw mae’n rhaid i brifysgolion weithredu mewn marchnad ryngwladol, sy’n rhan o ddull cyllido sy’n trin myfyrwyr fel defnyddwyr. Mae Llywodraethau yn gofyn iddynt ddatrys rhai o faterion mwyaf anhydrin ein hoes, o newid hinsawdd i ddementia, o ddeallusrwydd artiffisial i gymorth i farw. Maent yn gweithredu mewn oes lle mae gormod o wybodaeth, a lle mae gwybodaeth yn cael ei rannu yn rhad ac ar unwaith. Mae prifysgolion sy’n ymfalchïo yn eu hunain am gynhyrchu gwybodaeth a’i brofi yn cynnig her unigryw ac anodd.

Serch hynny, mae’r “arferion athronyddol” yr oedd Cardinal Newman mor hoff ohonynt ac sydd wedi’i ymgorffori yn ein prifysgolion wedi profi’n fuddiol i bob agwedd ar fywyd dyn
Y llefydd lle mae’r cwestiynau caled yn cael eu gofyn, a’r atebion anghyfforddus yn cael eu darganfod yw’r llefydd gorau i fod. Lle mae amrywiaeth barn yn cael ei gymharu â syniadau yn cael eu profi; lle mae gwahaniaeth yn her ac yn cyfoethogi, lle mae’r gorffennol yn cael ei asesu a dyfodol gwell yn cael ei eni. Maent yn llefydd i dwf personol a lle mae newid cymdeithasol yn cael ei danio.

Yma, mae wyth o gyfranwyr yn myfyrio ar beth y maent wedi manteisio o Brifysgol Caerdydd, eu cymunedau a’r byd; pethau na ellir bob amser eu diriaethu, meintioli na’u categoreiddio – ond sydd, yn eu ffordd eu hunain, yn amhrisiadwy.

Yr Athro Stuart Palmer FREng DSc, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol

Darllenwch yr erthygl nesaf am Pam Prifysgolion?:
Mae prifysgolion yn cau’r bwlch sgiliau

Hefyd yn y gyfres: