Uncategorized @cy

Syr Harold Evans yn ymweld â Dau Sgwâr Canolog (4 Hydref)

Peth prin yw dod ar draws rhywun â chymaint o hanes newyddiadurol â Syr Harold Evans, sy’n cynnwys torri’r newyddion am y sgandal Thalidomide, yr anghydfod chwerw rhyngddo ef ac un o feistri’r cyfryngau, Rupert Murdoch, a’i berthynas waith â Donald Trump.

Mae’n ychwanegu, am Lywydd UDA, mai ‘nid fe yw fy hoff berson’.

Gyda gyrfa o 70 mlynedd, nid yw cyn bennaeth y Times yn anghyfarwydd â chanmoliaeth. Ac yntau’n cael ei ystyried yn ‘olygydd y golygyddion’ gan sêr blaenllaw, mae ei gysylltiad hir ag Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd yn profi’n union pam.

Roedd ei ddarlith, o dan y teitl ‘Ydw i’n gwneud fy hun yn glir?’, ar ffurf dosbarth meistr mewn ieithyddiaeth gohebu – neu, yng ngeiriau Syr Harold, yn ‘eloquence under siege’. Roedd yn cyfiawnhau ei bwyntiau ag enghreifftiau hanesyddol, gan adael cyngor amhrisiadwy i’r myfyrwyr a oedd wedi aros ymhell ar ôl yr amser gorffen o wirfodd.

Roedd ei ddoethineb yn amrywio o gyngor ymarferol iawn (‘Ysgrifennwch yn y stad weithredol; nid oes amser gennym i wneud synnwyr o gymalau yn y stad oddefol’) i gyngor penodol (‘Y gair olaf mewn brawddeg yw’r un pwysicaf’) i gyngor ideolegol (Mae eich rhyddiaith wedi’i heintio gan greaduriaid echrydus. Dewch o hyd iddynt a’u lladd!’)

Ar ôl rhoi cyngor defnyddiol ar ffurf brawddegau byrion – mae mwy ar gael yn ei lyfr newydd ‘Do I make myself clear? Why writing well matters,’ – aeth ymlaen i sôn am ei yrfa enwog mewn newyddiaduraeth.

Gan sôn yn fanwl am un o straeon mwyaf ei yrfa, y sgandal Thalidomide, amlinellodd ddull o gwestiynu sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn iddo ers dros hanner canrif. Mae’n syndod, meddai, pa mor aml roedd newyddiadurwyr yn euog o beidio ag ateb y cwestiwn mwyaf amlwg: “Sut ddigwyddodd hyn?”

Fe soniodd “Harry” hefyd am ei frwydr am rym yn erbyn Rupert Murdoch, a brynodd y Times a’r Sunday Times pan oedd e’n Brif Olygydd ym 1981. ‘Roedd yn ddyn llawn egni,’ barnodd Evans, ‘sydd wedi cael effaith ddinistriol ar dri chyfandir.’

Erbyn hyn mae’n olygydd cyfrannol i Reuters, ac yn parhau i fod yr un mor frwdfrydig dros ddyfodol y diwydiant ag erioed. Soniodd am y rheiny oedd yn protestio yn erbyn ymchwiliad ‘Leveson 2’, i safonau’r wasg, gan gynghori’r gynulleidfa i’w ‘cymryd â llond tryc o halen’. Pam? ‘Dwi’n nabod y rheiny sy’n rhan ohono.’

Trodd ei feddwl yn syth tuag at fater brys sy’n herio’r diwydiant, sef ei sefyllfa economaidd. Yr ateb, yn ei dyb ef, yw cyfuniad o drethi mawrion ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoddion dyngarol – a sicrhau bod gwefannau newyddion yn agored i bawb, gan fod eu cyfyngu â ffi yn fygythiad i ryddid barn.

Gan orffen ei anerchiad gyda’r dorf gyfan ar eu traed i’w gymeradwyo, fe dreuliodd Syr Harold weddill y noson yn siarad â’r rheiny a ddaeth i wrando a dysgu. Ar Twitter, fe gyhoeddodd ei fod wedi’i ‘galonogi gan [eu] holi brwd’ – a oedd wedi’i ysgogi yn siŵr gan ei araith hynod ysbrydoledig.