Skip to main content

Cyswllt Caerdydd

Sŵn yr Ŵyl: Naomi Saunders (BA 2015)

29 Hydref 2018

Mae Naomi Saunders yn gerddor sy’n chwarae’r synth gyda Gwenno, sy’n perfformio yn Gymraeg a Chernyweg, ac oedd yn brif berfformwyr yn noson agoriadol gŵyl Sŵn eleni.

A wnaeth eich gallu cerddorol ddylanwadu ar eich astudiaethau yma yng Nghaerdydd?

Astudiais radd Newyddiaduraeth a Llenyddiaeth Saesneg oedd yn berffaith i mi fel rhywun creadigol gan fod gymaint o amrywiaeth a rhyddid ar gael – ac o’r herwydd cefais brofiadau allgyrsiol bythgofiadwy ac adeiladol fel rhan o gymdeithasau Act One, A Cappella a’r gymdeithas Operatig megis cael perfformio yn y Motorpoint!

Beth yw pwysigrwydd creu a pherfformio cerddoriaeth yn Gymraeg, i chi ac i’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru

Yn amlwg mae’n hollol bwysig i’r sîn yng Nghymru, ond dwi’n meddwl ei fod yn ymestyn ymhellach na hynny. Mae Gwenno yn profi bod modd trosi y tu allan i Gymru heb ganu’n Saesneg, sydd dwi’n meddwl yn gwneud y ‘sîn’ yn iachach gan ei fod yn denu sylw amryw o bobl o bob man.

Ydy’r broses o greu a pherfformio cerddoriaeth mewn ieithoedd lleiafrifol (y Gymraeg a Chernyweg) yn fwy o her neu’n wahanol i gyfansoddi a pherfformio yn Saesneg?

I mi, mae canu yng Nghernyweg yn sicr yn her gan nad ydw i’n siarad yr iaith! Ond dwi’n bendant wedi dysgu lot gan Gwenno ac mae’n andros o gymorth i mi fod hi a’i cherddoriaeth mor fynegiannol gan fy mod yn teimlo’r emosiwn ar y llwyfan. Mae canu yn y Gymraeg a Chernyweg dwi’n teimlo yn rhoi’r cyfle i mi fod yn berson gwahanol ar y llwyfan i bwy ydw i pan dwi’n canu’n Saesneg gyda’r grŵp Phalcons. Efallai fy mod yn gorfod gweithio’n ‘galetach’ ar yr emosiwn yng Nghymraeg a Chernyweg gan nad yw pawb yn y gynulleidfa yn debygol o ddeall y geiriau.

Sut daethoch chi i berfformio’r synth gyda Gwenno?

Roeddwn yn hynod ffodus, mae’n rhaid i mi ddweud! Gofynnodd i fy nghariad, Alex, i chwarae’r drymiau yn gyntaf ac yna fe ddywedodd ei bod yn meddwl cael rhywun arall i chwarae synths a chanu ac fe roddodd fy enw ymlaen. Dwi’n diolch iddi o waelod calon am gael ffydd ynof fi.

Roeddech chi’n rhan o’r gig agoriadol ar gyfer Sŵn eleni.  Beth yw pwysigrwydd Sŵn i’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru ac i chi’n bersonol?

Mae Sŵn wastad wedi bod yn bwysig i’r sîn – mae’n rhoi’r cyfle i artistiaid newydd yn ogystal â rhai mwy sefydledig sydd wir yn bwysig. Gŵyl Sŵn llynedd oedd y tro cyntaf i mi chwarae ‘gig’ yng Nghaerdydd gyda Phalcons yng Nghlwb Ifor Bach, felly i mi mae hi’n ŵyl arbennig iawn. Dwi’n hoffi ei fod yn cyfuno bandiau lleol gyda cherddoriaeth o du allan i Gymru hefyd gan ei fod yn denu pobl wahanol.

Sut brofiad oedd bod yn brif berfformwyr yng ngŵyl Sŵn nos Fercher diwethaf?

Roedden ni gyd mor gyffrous! Yn ogystal â chael chwarae gig ‘adra’, rydym edrych ymlaen at rannu llwyfan gyda Adwaith a Halo Maud. Maen nhw’n berfformwyr neilltuol ac yn bobl hyfryd hefyd! Roedd hi’n noson llawn ieithoedd gwahanol – Cymraeg, Cernyweg, Saesneg a Ffrangeg!

Sut aeth hi?

Llongyfarchiadau i dîm Clwb Ifor Bach – roedd y noson yn un mor arbennig ac roedd yr ystafell yn teimlo’n hudol. Roedd hi’n amlwg fod lot fawr o waith caled wedi mynd mewn i’r ŵyl. Weithiau mae hi’n anodd chwarae o flaen pobl ydych yn eu hadnabod ond roedd y gynulleidfa mor wresog oedd yn andros o help.

Mae Sŵn yn rhan o’ch taith gyda Gwenno. Sut mae eich bywyd ar daith ar hyn o bryd?

Mae bywyd ar daith yn anhygoel – ti’n mynd mewn i fyd hollol wahanol i’r arfer (dwi hefyd yn gweithio fel Swyddog Marchnata ar gyfer cwmni anturiaethau, felly mae’r ddau fyd yn gwbl gyferbyniol!) Mae’n hyfryd cael teithio efo dy ffrindiau a dy gariad a gweld y byd wrth wneud yr hyn ti’n ei garu.

Sut ddaethoch chi’n rhan mor amlwg o’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru a llwyddo i ledaenu eich cerddoriaeth y tu hwnt i Gymru?

Allaf i ddim cymryd y ‘credit’ am hynny yn anffodus. Bydd yn rhaid i chi ofyn i Gwenno! Mae hi’n gweithio’n galed iawn.

Beth oedd uchafbwynt eich gyrfa yn perfformio? Pa gig oedd yr un sy’n sefyll allan i chi?

Dwi’n meddwl mai perfformio ar raglen Jools Holland ‘nol ym mis Mai yw’r uchafbwynt i mi. Dyna oedd y freuddwyd ers i mi fod yn ddim o beth – dwi’n cofio dychmygu sefyll y tu allan i stiwdio Jools yn canu wrth ddisgwyl iddo gerdded heibio – bach yn od ond roeddwn i’n ifanc iawn! Mae cefnogi Suede ar daith o amgylch Ewrop wedi bod yn brofiad gwbl anhygoel hefyd. Roedd pawb mor garedig ac fe ddysgasom lot ganddynt.

Beth sydd nesaf?

Bydd pethau’n cael eu datgelu yn fuan iawn felly cadwch lygad allan am newyddion!