Skip to main content

NewyddionUncategorized @cy

Pam rwy’n rhedeg: Yr Athro John Chester

6 Hydref 2018

Yr Athro John Chester yw Arweinydd Thema Ymchwil Canser ym Mhrifysgol Caerdydd Mae’n dweud rhagor wrthym am pam mae’n rhoi ei esgidiau rhedeg ymlaen i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar ran #TeamCardiff

Dwi wedi gweithio fel clinigydd academaidd (meddyg arbenigol sydd â chyfrifoldebau ymchwil ac addysgu) mewn ymchwil canser ers dros 30 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae llawer o’r ymchwil canser yr wyf wedi bod yn rhan ohono wedi ei gefnogi gan roddion. Cafodd llawer o’r arian ei godi gan wirfoddolwyr anhygoel sydd wedi pobi cacennau, rhedeg marathon, a hyd yn oed cael ‘body wax’ llawn a phlymio o’r awyr!

Felly, rwy’n rhedeg fy hanner marathon cyntaf er mwyn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser, drwy gynllun arweinwyr ymchwil canser y dyfodol Prifysgol Caerdydd.

Beth yw Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol?

Ddwy flynedd yn ôl fe lansiodd fy nghydweithwyr a minnau Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol Prifysgol Caerdydd (FLiCR). Mae’r fenter yn cynnig datblygiad gyrfaol wedi ei dargedu’n ofalus i feddygon canser mwyaf addawol Prifysgol Caerdydd a gwyddonwyr ymchwil ar ddechrau eu gyrfaoedd academaidd. Mae’r cynllun yn cefnogi ymchwilwyr canser dros ystod eang o ddisgyblaethau, o wyddonwyr labordy, arbenigwyr mewn treialon clinigol i seicolegwyr sy’n helpu cleifion ddelio gyda’r straen meddyliol sy’n dod gyda chanser a’r rheiny syn datblygu triniaethau a ffyrdd newydd o iacháu

Drwy garedigrwydd rhedwyr #TeamCardiff yn 2016 a 2017 rydym wedi buddsoddi £50,000 i gefnogi dwy garfan o Arweinwyr y Dyfodol. Fel o’r blaen, bydd yr holl arian sy’n cael ei godi ar gyfer ymchwil canser gan Hanner Marathon Caerdydd yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr er mwyn cyflymu datblygiad triniaethau mwy effeithiol a fydd yn gwella cyfraddau goroesi ac ansawdd bywyd pobl sy’n dioddef o ganser nawr ac yn y dyfodol.

Pam rwy’n rhedeg

Mae ymchwil canser wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd. Mae wedi bod yn fraint i allu helpu dau grŵp o gleifion canser gydol fy ngyrfa feddygol – un grŵp yn y fan a’r lle, mewn clinig ar wardiau, a’r ail ar gyfer y dyfodol, drwy ymchwil canser.

Yn ystod fy ngyrfa, rydw i wedi gobeithio y bydd ymchwil gychwynnol yn cael effaith ar gleifion yn y dyfodol. Drwy fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser rydym yn gallu cefnogi syniadau sydd heb eu harchwilio’n llawn ac yn sicrhau bod y ddawn yno yn y maes er mwyn gwneud y mwyaf o ddarganfyddiadau newydd. Rydym yn gwthio effaith y gefnogaeth ymhellach ac ymhellach i’r dyfodol, gyda’r gobaith o helpu mwy a mwy o gleifion.

Cefnogwch John yn ei ymdrechion i godi arian drwy ei dudalen JustGiving