Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesBusinessEin Cyn-fyfyrwyrUncategorized @cy

Sean Melody (BSc 2012)

2 Awst 2018
Sean Melody
Sean Melody

Astudiodd Sean Melody (BSc 2012) Rheoli Busnes yn Ysgol Busnes Caerdydd. Ers graddio, mae Sean wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau ym meysydd TG a systemau digidol. Erbyn hyn mae’n gweithio mewn awdurdod trethi a sefydlwyd i gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru.

Penderfynais astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn benodol mewn Ysgol Busnes Caerdydd, oherwydd ei henw da am addysgu ac ymchwil. Hefyd, gan fy mod wedi cael fy magu yng Nghaerdydd ac yn dwli ar y ddinas, roedd y penderfyniad yn haws fyth.

Fy hoff adeg yn ystod fy amser yng Nghaerdydd oedd mynd i gyfres o ddarlithoedd am argyfwng ariannol 2008. Cyn astudio yn yr Ysgol Busnes, roeddwn i’n credu bod gen i ddealltwriaeth resymol o’r achosion a’r effeithiau. Fodd bynnag, ar ôl mynd i sawl seminar a darlith am y pwnc, dysgais am y rheswm go iawn am yr argyfwng tai a’i effeithiau, esmwytho meintiol, achub y banciau, a llu o bynciau diddorol eraill. Doeddwn i erioed wedi cael fy nghyfareddu cymaint gan ddysg cyn hynny, nac ers hynny.

Ar ôl graddio gweithiais i Ganolfan Canser Felindre lle bûm yn rheoli amryw brosiectau TG, gan gynnwys y rhaglen profiad y claf yn yr ysbyty, ac yn cyflwyno system treuliau digidol ar gyfer yr holl staff.

Yna, ymunais â Rhaglen Llwybr Carlam Digidol, Data a Thechnoleg Swyddfa’r Cabinet. Yn ystod fy amser ar y cynllun bûm yn rheoli ac yn gweithio ar brosiectau datblygu gwe, prosiectau i ddatblygu systemau digidol, awtomeiddio robotig, a phrosiectau cyflwyno technoleg ar draws adrannau llywodraeth yng Nghymru a Lloegr.

Erbyn hyn rydw i’n gweithio i Awdurdod Cyllid Cymru, awdurdod treth newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru. Fel rhan o’r tîm digidol a thechnoleg, rydw i’n gyfrifol am gefnogi gwasanaethau digidol yr Awdurdod, a bûm yn rheoli’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno system dreth ar-lein newydd.

Wrth edrych yn ôl, rwy’n credu bod yr Ysgol Busnes wedi rhoi dealltwriaeth sylfaenol gref i mi o sawl maes gwahanol. Mae dealltwriaeth o economeg, cyllid, polisïau cyhoeddus, marchnata a thechnoleg ddigidol wedi fy mharatoi ar gyfer rolau yn y GIG a’r llywodraeth.

Pe bawn i’n rhoi cyngor i fyfyrwyr presennol byddwn i’n eu hannog i fanteisio ar y wybodaeth ac arbenigedd sydd ar gael i chi tra rydych yn astudio yn y Brifysgol – boed yn ddarlithwyr, digwyddiadau neu’r llyfrgell. Cefais dair blynedd ragorol yn yr Ysgol Busnes. O’r cyfleusterau sydd ar gael i’r darlithwyr, mae popeth o safon uchel ac yn rhywbeth y gallwch ymfalchïo ynddo. Mwynhewch y profiad gymaint ag y gallwch – chewch chi byth brofiad arall tebyg!


Arts, Humanities & Social SciencesBusinessOur Alumni

Sean Melody (BSc 2012)

2 Awst 2018
Sean Melody
Sean Melody

Sean Melody (BSc 2012) studied Business Management at Cardiff Business School. After graduating Sean has worked in a variety of roles in IT and digital systems. He now works at a new tax authority set up to collect and manage devolved taxes in Wales. (rhagor…)