Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrLawUncategorized @cy

Huw Thomas (LLB 2017)

1 Awst 2018
Huw Thomas
Huw Thomas

Yn ddiweddar, mae Huw Thomas (LLB 2017) wedi cael contract hyfforddiant gyda chwmni cyfreithiol rhyngwladol, Allen & Overy LLP. Mae wedi astudio rhaglenni israddedig ac ôl-radd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac mae’n diolch i’r Ysgol am ei baratoi “ar gyfer sut beth fydd bod yn gyfreithiwr masnachol go iawn”.

I ddechrau cefais fy nenu gan enw da Prifysgol Caerdydd gan ei bod yn un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw ym Mhrydain. Yn ogystal, fe wnaeth y rhagolygon gyrfaol sydd gan fyfyrwyr Caerdydd argraff arnaf, a chaiff hyn ei bwysleisio gan y ffaith fy mod wedi bod yn ddigon ffodus i gael Contract Hyfforddi gydag Allen & Overy LLP.

Un o f’atgofion mwyaf cofiadwy yn y brifysgol yw fy seremoni raddio yn 2017. Roedd y ddinas yn fywiog ac yn llawn cyffro adeg graddio ac mae’n braf edrych ‘nôl a hel atgofion melys am yr achlysur llawen y gwnes i ei rannu gyda theulu a ffrindiau agos!

Ar ôl graddio, gwnes i nifer o interniaethau yn yr haf gyda chwmnïau cyfraith rhyngwladol a rhanbarthol o’r radd flaenaf. Wedi hynny, penderfynais ddilyn LLM mewn Cyfraith Gydwladol Masnach i gyfoethogi fy ngwybodaeth ymhellach a chael cyfle i fanteisio ar arbenigedd tiwtoriaid eithriadol fel Valerie Fogleman, Phillip Johnson a Paula Thomas ymhlith llu o rai eraill!

Mae Prifysgol Caerdydd wedi fy mharatoi’n drylwyr ar gyfer sut beth fydd bod yn gyfreithiwr masnachol mewn gwirionedd. Mae’r ymdrechion academaidd a’r profiadau ymarferol a gafwyd yno wedi fy ngalluogi i ddatblygu’r gallu i amlygu, dadansoddi a darparu atebion i faterion masnachol cyfoes sy’n wynebu’r proffesiwn cyfreithiol, cwmnïau a’u cleientiaid.

Pe gallwn rannu rhywfaint o ddoethineb gyda darpar fyfyrwyr, byddwn yn dweud bod dangos tystiolaeth o ddiddordeb yn eich maes penodol yn bwysig iawn i ddarpar gyflogwyr.
O ystyried y trylwyredd academaidd sy’n gysylltiedig â dilyn gradd israddedig, mae’n hawdd anghofio hynny yn ystod y blynyddoedd cynnar o astudio.

Pe bawn yn gallu mynd yn ôl mewn amser a chynghori fy hun, byddwn yn awgrymu manteisio ar bob diwrnod agored, digwyddiadau rhwydweithio a lleoliadau profiad gwaith o’r flwyddyn astudio gyntaf. Byddai hyn wedi ei gwneud hi’n llawer haws i mi ddangos tystiolaeth yn fy maes cyflogaeth o’r cychwyn cyntaf.

Ni fyddwn wedi llwyddo i gyflawni’r cyflawniadau personol a phroffesiynol yr wyf wedi eu cyflawni hyd yma oni bai am fy mhrofiad ym Mhrifysgol Caerdydd! Fy amser yn y brifysgol oedd blynyddoedd gorau fy mywyd!


Arts, Humanities & Social SciencesLawOur Alumni

Huw Thomas (LLB 2017)

1 Awst 2018
Huw Thomas
Huw Thomas

Huw Thomas (LLB 2017) has recently secured a training contract with international law firm, Allen & Overy LLP. He has studied both undergraduate and postgraduate programmes at the School of Law and Politics and credits the School with preparing him “for the reality of life as a commercial solicitor”. (rhagor…)