Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesBusinessEin Cyn-fyfyrwyrUncategorized @cy

Giacomo Corsini (MSc 2014)

25 Gorffennaf 2018
Giacomo Corsini
Giacomo Corsini

Pan ofynnwyd iddo ddisgrifio Prifysgol Caerdydd mewn pum gair, dywedodd Giacomo Corsini (MSc 2014), “Mae’n lle gwych i ddysgu”. Graddiodd Giacomo o Ysgol Busnes Caerdydd yn 2014 ar ôl cwblhau rhaglen MSc Marchnata Strategol. Mae bellach yn gweithio i’r cwmni ymchwil a chynghori, Gartner.

Ymwelais â Chaerdydd am y tro cyntaf, flwyddyn cyn cyflwyno cais i’r Ysgol Busnes gan fod fy ffrind gorau wedi symud yno yn ddiweddar. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ddinas, felly dechreuais wneud rhywfaint o ymchwil i’r Brifysgol, er mwyn canfod sut brofiad byddai astudio yno. Roedd gan y rhaglen MSc Marchnata Strategol rai modiwlau gwych mewn meysydd o wir ddiddordeb i mi, ac roedd gan yr Ysgol Busnes yn uchel ei pharch ac yn cynnig cyfleusterau gwych, felly roedd fy newis yn un hawdd!

I mi, roedd graddio yn foment fythgofiadwy. Bron i flwyddyn ar ôl cwblhau’r cwrs, roedd yn wych cael y cyfle i weld llawer o fy athrawon a ffrindiau oedd ar yr un cwrs, roedd llawer ohonynt wedi gadael Caerdydd neu’r DU i weithio dramor neu ddychwelyd i’w gwledydd cartref.

Ar ôl graddio, bues i’n rheolwr cyfrifon i gwmni marchnad digidol o Gymru o’r enw xibo Ltd. sy’n arbenigo mewn marchnata digidol ar gyfer y diwydiant digwyddiadau. Wedi hynny, symudais i’r diwydiant TG a dechrau gweithio fel rheolwr cleient gyda Gartner, cwmni ymchwil a chynghori. Rwyf yno o hyd yn gweithio fel ymgynghorydd cyswllt.

Y peth gwych am fy rôl bresennol yw nad oes yr un diwrnod union yr un peth. Gall fy nyddiau gynnwys gweithdy cleient neu gyflwyniad, sesiwn ateb mewnol, ymchwil, treulio amser ar amcanion cleient ar gyfer ymgysylltu, neu nifer o weithgareddau eraill!

Drwy astudio yng Nghaerdydd mae fy sgiliau meddwl yn feirniadol wedi datblygu, yn ogystal â sgiliau datrys problemau a chyflwyno gwybodaeth, ac mae pob un ohonynt yn dod yn ddefnyddiol bob dydd yn fy rôl bresennol.

Pe bawn yn rhoi cyngor ymarferol i fyfyrwyr y dyfodol, gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu eich llety myfyrwyr cyn eich bod yn cyrraedd Caerdydd.

Ac i’r rhai sydd eisoes yn astudio yng Nghaerdydd – mae croeso i chi rannu eich syniadau a’ch barn heb ofni gwneud camgymeriadau – byddwch yn synnu faint o weithiau rydych chi’n ei gael yn iawn!

Ac yn olaf, mwynhewch! Yn ystod y blynyddoedd hyn y byddwch yn creu rhai o’ch atgofion a’ch ffrindiau gorau! Bydd Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn lle sy’n agos at fy nghalon, a gwn fod llawer o’m ffrindiau ar y cwrs yn teimlo union yr un peth!


Arts, Humanities & Social SciencesBusinessOur Alumni

Giacomo Corsini (MSc 2014)

25 Gorffennaf 2018
Giacomo Corsini
Giacomo Corsini

When asked to describe Cardiff University in five words Giacomo Corsini (MSc 2014) said, “A great place to learn”. Giacomo graduated from Cardiff Business School in 2014 after completing the MSc Strategic Marketing programme. He now works for the research and advisory company, Gartner. (rhagor…)