Uncategorized @cy

Beth yw eisteddfod?

Gŵyl o lenyddiaeth, cerddoriaeth a pherfformio yw eisteddfod, sy’n dathlu iaith a diwylliant Cymru. Mae’n aml yn ddigwyddiad cystadleuol, gyda chorau, beirdd, cantorion, cerddorion a dawnswyr yn perfformio am wobrau.

Gan ddyddio’n ôl i 1176 (pan ddaeth pobl ynghyd am y tro cyntaf i gastell Rhys ap Gruffydd yn Aberteifi), mae gan yr eisteddfod fodern gryn ddyled i adfywiad y 1790au.

Yr eisteddfod bwysicaf yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sef i bob golwg yr ŵyl gerddorol a barddol fwyaf yn Ewrop. Caiff ei chynnal unwaith y flwyddyn, ac mae’n symud rhwng gogledd a de Cymru bob blwyddyn.

Yn 2018, bydd yn ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf ers degawd – a bydd y maes (cae yw hwn yn aml, ond dyma safle’r ŵyl yn fwy cyffredinol) wedi’i wasgaru ar draws Bae Caerdydd, gan ymgorffori casgliad enfawr o grwpiau, cymdeithasau, elusennau, a stondinau bwyd a diod.

Disgwylir y bydd 6,000 o gystadleuwyr a 150,000 o ymwelwyr yn heidio i’r ddinas i weld treftadaeth ddiwylliannol Cymru – ac eleni, cânt weld llawer o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd.

Y beth?

Mae llawer o seremonïau’n gysylltiedig â’r eisteddfod. Mae Gorsedd y Beirdd yn gymdeithas o feirdd, cerddorion, ysgrifenwyr a phobl eraill sydd wedi cyfrannu at ddiwylliant Cymru, ac mae lliwiau’r gwisgoedd yn dynodi’r cyfraniad o dan sylw.

Cyn 2012, roedd y lliwiau’n dynodi safle – gwyrdd i Ofyddion, glas i Feirdd a gwyn i Dderwyddon. Ers hynny, cyfeirir at yr holl aelodau fel Derwyddon.

Adfywiad y 1790au sydd i’w gyfrif am sawl un o’r traddodiadau, ond mae gwreiddiau’r seremonïau’n ddyfnach yn hanes Cymru. Mae’r cofnod cynharaf o fardd yn ennill y Gadair yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif!

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn ennill?

Am hyder! Mae seremonïau’r Orsedd yn cydnabod Coroni’r Bardd (am bryddest neu gerddi rhydd), dyfarnu’r Fedal Ryddiaith, a Chadeirio’r Bardd (am awdl neu gerddi mewn cynghanedd gyflawn).

Bydd yr Archdderwydd ac aelodau’r Orsedd yn ymgynnull mewn gwisgoedd seremonïol i gyhoeddi pwy yw’r enillwyr. Bydd y rheini sy’n cystadlu’n defnyddio ffugenw, a bydd yr enillydd yn parhau i fod yn ddirgelwch hyd nes y bydd ar ei draed ar alwad y corn gwlad.

Bydd yn ymlwybro tua’r llwyfan, ond cyn y gellir coroni neu gadeirio’r bardd buddugol, neu gyflwyno’r fedal i’r llenor buddugol, caiff y cledd mawr ei ddal ar i fyny. Yn rhyfedd iawn, arwydd o heddwch yw’r llafn chwe throedfedd. Nid yw’n cael ei ddadorchuddio’n llawn a chaiff ei gario wrth y llafn yn hytrach na’r carn.

Bydd yr Archdderwydd yn gofyn deirgwaith a oes heddwch, a bydd y dorf yn ateb ‘Heddwch’ deirgwaith, i gadarnhau hynny. Caiff y buddugwr ei ddatgan yn ffurfiol, wedyn, fel y Prifardd neu’r Prif Lenor. Oni bai, wrth gwrs, bod neb yn deilwng yn nhyb y beirniaid, sydd wedi digwydd o bryd i’w gilydd.

Ddylwn i fynd?

Dylech! Ceir awyrgylch parti go iawn, gyda phawb eisiau dathlu a rhannu diwylliant ac iaith Cymru – gydag ymdrechion enfawr i wneud yr ŵyl ddiwylliannol hon yn agored i’r rheini nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg, yn y blynyddoedd diwethaf.

Bydd eich hoff brifysgol yno, hefyd.