Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Y GIG yn 70: “Profiad na welir mewn unrhyw werslyfr” – Alex Gordon (Medicine 2014-)

28 Mehefin 2018

Mewn un ffordd neu’i gilydd rwyf i wedi bod yn rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ers 2012, ar ôl dechrau fy ngyrfa fel Nyrs Cynorthwyol cyn dechrau astudio yn Ysgol Meddygaeth Caerdydd.

Bu’r profiad galwedigaethol cychwynnol hwnnw’n werthfawr iawn, gan roi cipolwg i fi ar yr amrywiol brosesau sy’n cadw’r GIG i fynd. Dyma’r pumed cyflogwr mwyaf drwy’r byd, ac mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd er lles y claf.

Bellach rwyf i ar fy mhedwaredd flwyddyn yng Nghaerdydd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rwyf i wedi bod ar leoliadau gwaith ar draws Cymru. Mewn wardiau ac ysbytai gwahanol sy’n rhychwantu nifer o arbenigeddau, yr un elfen gyson yw ymrwymiad a phroffesiynoldeb staff y GIG.

Dyw’r profiad ei hun ddim i’w weld mewn unrhyw werslyfr; fyddwn i ddim wedi gallu dod yn feddyg heb yn gyntaf gael fy nhrwytho’n llawn ym mywyd yr ysbyty. Fel myfyrwyr, rydym ni’n ffodus ein bod yn gallu manteisio ar hynny’n ddyddiol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae’n dipyn o ystrydeb, ond y bobl a’r llefydd hyn sy’n fy ysbrydoli i barhau i weithio at fy nod. Y GIG yw lle rwyf i’n gweld fy ngyrfa yn y dyfodol, ac mae’n rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol yn ei gylch.

Mae gweithio yn yr amgylchedd hwn yn eich gorfodi chi i ystyried rhagoriaeth y system – yn enwedig y ffordd y gall claf gael triniaeth frys werth miloedd o bunnoedd heb orfod poeni am dalu’r bil ar adeg mor anodd.

Rhaid i ni gofio pa mor lwcus ydym ni. Mae anghydraddoldeb iechyd yn llawer llai cyffredin yn y DU na mewn llawer o wledydd eraill, ac rwyf i’n wirioneddol gredu na ddylai ffactorau economaidd-gymdeithasol ddylanwadu ar fynediad neb at ofal iechyd. Dyma oedd y gwerthoedd wrth graidd y GIG 70 mlynedd yn ôl, ac mae’r un peth yn wir heddiw.

Mae sôn ar hyn o bryd am y pwysau ar y GIG, a sut olwg fydd ar ein gwasanaeth ymhen rhai blynyddoedd. “Bydd y GIG yn parhau cyhyd â bod pobl sydd â ffydd ar ôl i ymladd drosto” yw un dyfyniad a briodolir i’w sylfaenydd, Nye Bevan.

Os oes gennym bobl mor dosturiol ac ymroddedig â’r rhai rwyf i’n cyfarfod â nhw’n ddyddiol, bydd yn parhau i’n gwasanaethu. Dyma edrych ymlaen at y 70 mlynedd nesaf.