Uncategorized @cy

Gwylio’r bylchau: strategaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer cefnogi myfyrwyr

Ym mis Mai, rhybuddiodd adroddiad gan Universities UK fod cenhedlaeth o fyfyrwyr mewn perygl o “lithro drwy’r bylchau” mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Gyda 75% o salwch meddwl yn ymddangos erbyn 24 oed a’r amgylchiadau unigryw sy’n dod yn sgil astudio llawn amser, mae’n hawdd gweld pam fod 94% o sefydliadau addysg uwch wedi gweld cynnydd yn y nifer sy’n ceisio manteisio ar gymorth.

“Daw bywyd prifysgol â llu o heriau a phwysau newydd ar fyfyrwyr. Mae’r pwysau ariannol yn sylweddol, ynghyd â’r baich academaidd wrth astudio,” dywed yr Athro Deborah Cohen (MD 2008), cyfarwyddwr Cymorth i Fyfyrwyr yn Ysgol Meddygaeth Caerdydd.

“Mae ffactorau cymdeithasol yn cynnwys cael eich tynnu o strwythurau cymorth ffrindiau a theulu, cael eich amlygu fwyfwy i alcohol a chyffuriau, a’r pwysau i ‘ffitio i mewn’.”

Mae ei hasesiad yn cyd-fynd â phrofiad George Watkins, sydd ar fin graddio o Gaerdydd (Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth 2015-), ac sydd wedi wynebu ei anawsterau ei hun a gwasanaethu fel Swyddog Iechyd Meddwl Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn 2017-18.

“Doeddwn i ddim mewn lle da pan gyrhaeddais i’r Brifysgol,” dywedodd George. “Rwyf i wastad wedi brwydro gyda gorbryder; i ddechrau roeddwn i ar lawer o feddyginiaeth. Dim ond dwy awr mae’n ei gymryd i fi gyrraedd adref o Gaerdydd ac roedd hynny’n ffactor pwysig yn fy newis. Roeddwn i am gadw’r rhwyd diogelwch yna.”

I George, roedd dod i Gaerdydd fel “agor y byd o’r newydd”. Ond hyd yn oed wedyn, dywed, “roedd rhai adegau anodd”.

“Roeddwn i’n gwadu fy mhroblemau iechyd meddwl. Daeth pethau i uchafbwynt ac roeddwn i mewn cyflwr y gallech chi ei ddisgrifio’n hunanladdol. Dyna pryd es i weld gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr y Brifysgol; rhoddon nhw gwnsela brys i fi a chadwodd hynny fi i fynd. Mae’n rhywbeth rwyf i’n rhyfeddol o falch ohono.”

Mae’r Athro Cohen yn glir bod cefnogi lles meddyliol mewn adegau o angen yn rhywbeth mae Caerdydd yn ymroi’n llawn iddo, ond mae’n pwysleisio bod y Brifysgol yn awyddus i fynd ymhellach.

“Rydym ni’n lansio astudiaeth newydd gyda’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl,” dywed. Drwy recriwtio carfan o fyfyrwyr Caerdydd i’w dilyn dros amser, bydd yr astudiaeth yn “ymchwilio sut y gallai pryderon iechyd meddwl newid wrth i fyfyrwyr fynd yn eu blaen, a beth allai fod yn ffactorau risg ac yn ffactorau amddiffynnol i’w hiechyd meddwl.”

“Yn gyffredinol, mae’r astudiaeth hon yn ceisio gwella mynediad, darpariaeth ac ymgysylltu â gwasanaethau myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.”

Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl

Ond – o ystyried arbenigedd Caerdydd yn y maes hwn – mae’n hanfodol fod yr ymchwil yn mynd y tu hwnt i gyflenwi gwasanaeth ac i graidd rhai o’r ffactorau sy’n sail i’n hiechyd meddwl yn y cyfnod niwroddatblygol.

“Fe wyddom fod y rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl yn dechrau yn gynnar mewn bywyd,” dywed yr Athro Jeremy Hall, cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Caerdydd. “Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar integreiddio iechyd meddwl plant a’r glasoed lle bynnag y bo’n bosibl.”

Yn ogystal â sefydlu tîm cymorth Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn y Brifysgol i helpu’r rheini sydd ag amrywiaeth o gyflyrau, yn ddiweddar dyfarnwyd grant o £1m i’r Sefydliad gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i ymgymryd â menter Pathfinder ar raddfa fwy.

Y syniad yw rhannu data clinigol, amgylcheddol, datblygiadol a biolegol – a bydd rhan o’r prosiect yn cynnwys sefydlu carfan glasoed, gan edrych ar iechyd meddwl mewn ysgolion.

“Mae’n bwysig ein bod ni fel Prifysgol sydd â phroffil uchel o ran ymchwil iechyd meddwl yn mynd i’r afael â’r cwestiynau sy’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl ar yr oed bregus hwn,” dywed yr Athro Hall.

Mae George yn cytuno i’r carn.

“I fi, nid llefydd ar gyfer addysg yn unig yw’r rhain; mae gan brifysgolion ddyletswydd gofal i’w myfyrwyr. Gobeithio y gallwn ni arwain drwy ddangos esiampl i weddill y DU.”