Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesHistory, Archaeology and ReligionOur Alumni

Andy Holbrook (BSc 1999, MSc 2001)

24 April 2018
Andy Holbrook
Andy Holbrook

Andy Holbrook (BSc 1999, MSc 2001) is Collections Care Manager at the Museum of London. He studied BSc Archaeological Conservation and MSc Conservation at the School of History, Archaeology and Religion.

I wanted to study Archaeological Conservation and felt that Cardiff offered the best mix of science and humanities. I was also really attracted to the city itself.

I have so many good memories of my time in Cardiff! Nights out in the union with people who are still my best friends. Working on ancient Egyptian artefacts for the first time. Seeing the endless range of avenues for learning that one could explore, and being encouraged to follow them. The initial (and continued) thrill of going behind the scenes in a museum.

My degree was vocational and prepared me really well for my career. The teaching staff are so passionate about the subject and the welfare of their students, and I still consider them to be good friends, 20 years on from my course.

I actually got a job when I was just about to start my MSc thesis, and the university kindly gave me a submission extension so I could pursue my first job in conservation. It meant working in the day and doing my thesis in the evening, but it all worked out for the best.

To date I have worked at the Museum of London Docklands, Museum of London and the Imperial War Museum in a range of roles including Head of Care and Conservation.

Cardiff University turned my fantasy of working in museums into a reality.

After working on a variety of projects I returned to Museum of London in April 2017, principally to work on plans to move to a new museum site in 2023. I am the Collections Care Manager and manage a team of six which is responsible for the care of the collections the museum holds in store and on display. There is no such thing as a regular day but usually lots of meetings about projects at the three sites that make up the Museum of London estate. There’s always something interesting and new.

I teach conservation regularly in Turkey, as well as worked on digs in Ukraine and Egypt. I have helped a heritage charity (Heritage without Borders) in Albania and have given talks in the UK, Turkey and Canada.


Andy Holbrook (BSc 1999, MSc 2001) yw’r Rheolwr â Gofal am y Casgliadau yn Amgueddfa Llundain. Astudiodd BSc mewn Cadwraeth Archeolegol ac MSc mewn Cadwraeth yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Roeddwn i eisiau astudio Cadwraeth Archeolegol ac yn teimlo mai Caerdydd oedd yn cynnig y cyfuniad gorau o wyddoniaeth a’r dyniaethau. Roeddwn hefyd yn cael fy nenu’n fawr gan y ddinas ei hun.

Mae gennyf gynifer o atgofion da am fy nghyfnod yng Nghaerdydd! Nosweithiau allan yn yr undeb gyda phobl sy’n dal yn ffrindiau gorau i mi. Gweithio ar arteffactau hynafol o’r Aifft am y tro cyntaf. Gweld yr amrywiaeth diddiwedd o lwybrau dysgu oedd ar gael i’w harchwilio, a chael anogaeth i’w dilyn. Gwefr gychwynnol (a pharhaus) mynd tu ôl i’r llenni mewn amgueddfa.

Roedd fy ngradd yn un alwedigaethol ac fe wnaeth fy mharatoi’n dda iawn ar gyfer fy ngyrfa. Mae’r staff addysgu yn teimlo mor angerddol am y pwnc a lles eu myfyrwyr, ac rwy’n dal i feddwl amdanynt fel ffrindiau da, 20 mlynedd wedi’r cwrs.

Fel mae’n digwydd, cefais gynnig swydd pan oeddwn ar fin dechrau fy traethawd MSc, a bu’r Brifysgol yn ddigon caredig i estyn fy nyddiad cyflwyno er mwyn i mi fedru mynd ar ôl fy swydd gyntaf ym maes cadwraeth. Roedd yn golygu gweithio yn ystod y dydd a gwneud fy nhraethawd yn y nos, ond gweithiodd popeth er lles yn y diwedd.

Hyd yn hyn rwyf wedi gweithio yn Amgueddfa Llundain yn y Dociau, Amgueddfa Llundain a’r Amgueddfa Ryfel Imperialaidd, a hynny mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys Pennaeth Gofal a Chadwraeth.

Trodd Prifysgol Caerdydd fy ffantasi o weithio mewn amgueddfeydd yn realiti.

Ar ôl gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, dychwelais i Amgueddfa Llundain ym mis Ebrill 2017, yn bennaf er mwyn gweithio ar gynlluniau i symud i safle amgueddfa newydd yn 2023. Fi yw’r Rheolwr sydd â Gofal am y Casgliadau, ac rwy’n rheoli tîm o chwech sy’n gyfrifol am ofalu am y casgliadau sydd gan yr amgueddfa mewn storfeydd ac yn cael eu harddangos. Does dim y fath beth â diwrnod cyffredin, ond fel arfer mae llu o gyfarfodydd am brosiectau ar y tri safle sy’n rhan o ystâd Amgueddfa Llundain. Mae rhywbeth diddorol a newydd bob amser.

Rwy’n addysgu cadwraeth yn rheolaidd yn Nhwrci, ac rwyf hefyd wedi gweithio ar gloddfeydd yn Wcráin a’r Aifft. Rwyf wedi helpu elusen treftadaeth (Heritage without Borders) yn Albania ac wedi cyflwyno sgyrsiau yn y Deyrnas Unedig, Twrci a Chanada.