
Helo! Rhys Fletcher (BScEcon 2015) ydw i, ac rwy’n rhan o’r Tîm Cysylltiadau Cynfyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy’n gofalu am ein Llysgenhadon Cynfyfyrwyr, cynfyfyrwyr sydd am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Mae wythnos gyntaf Awst yn amser pwysig i’r gymuned Gymreig gan mai dyna pryd y cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae’r ŵyl, sy’n para wyth diwrnod, yn ddathliad o gerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, ac mae’n denu 150,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau masnach. Yn ystod yr wythnos, cafodd sgyrsiau a thrafodaethau eu cynnal ym mhabell Prifysgol Caerdydd o dan y thema Cysylltu Caerdydd – sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, ei staff a’i chynfyfyrwyr wedi’u cysylltu â Chymru a thu hwnt.
Roeddwn yn ffodus iawn o allu mynd i’r Eisteddfod eleni ar ran y tîm Cysylltiadau Cynfyfyrwyr a chynnal ein haduniad cyntaf erioed ar gyfer cynfyfyrwyr. Roedd yn gyfle gwych i rannu ein cyfleoedd gwirfoddoli newydd a chyffrous gyda chynfyfyrwyr ac annog y rhai oedd yno i rannu eu hoff atgofion o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a ddenodd dros 60 o gynfyfyrwyr. Fe wnes i fwynhau gweld cynfyfyrwyr yn rhannu straeon am eu hamser yn astudio yng Nghaerdydd. Bu’r Goeden Atgofion yn boblogaidd ac fe’i haddurnwyd â llawer o atgofion lliwgar erbyn diwedd y digwyddiad. Dywedodd Ellen Jane Carter (BA 2016) fod ‘BA a MA yn Ysgol y Gymraeg wedi rhoi’r sgiliau, yr hyder a’r cyfleoedd i mi gael fy swydd ddelfrydol, hyd yn oed cyn i mi orffen fy ngradd’ tra bod Cadi Thomas (BA 2012, MA 2015) wedi mwynhau gwneud ‘ffrindiau gydol oes’ a’r gweithgareddau cymdeithasol a gynigir gan GymGym.
Yn ystod fy amser ym Môn, cefais gyfle hefyd i fynd o amgylch yr Eisteddfod a’r Maes. Ar ôl bod yn yr Eisteddfod yn y gorffennol, rwyf bob amser wedi mwynhau’r cymysgedd eclectig o bethau i’w gweld. Newydd i’r Eisteddfod eleni oedd y babell Artisan a oedd yn cynnwys dros 30 o siopau arbenigol a stondinau yn arbenigo mewn crefftau Cymreig. I orffen fy nhaith gyflym o amgylch y Maes, gwnes y daith hollbwysig i’r Pentref Bwyd sydd bob amser yn addo’r pryd gorau o fwyd gan arlwywyr lleol yng Nghymru. Yng Nghaerdydd y cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y digwyddiad yn cael ei drawsnewid o’i fformat traddodiadol i fod yn Eisteddfod drefol neu ddinesig, gan ddefnyddio cyfuniad o adeiladau parhaol yn y Bae a strwythurau dros dro i greu’r Maes. Gan mai Caerdydd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2018, rydym yn meddwl y byddai’n briodol cynnal aduniad mwy a gwell ar gyfer cynfyfyrwyr y flwyddyn nesaf. Bydd yn gyfle gwych i ddathlu pen-blwydd cyntaf ein prosiectau gwirfoddoli a dathlu’r rhai sydd wedi rhannu arbenigedd gyrfaoedd gyda graddedigion newydd, sefydlu canghennau cynfyfyrwyr dramor ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Os hoffech chi gael gwybod rhagor am ein cyfleoedd i Gymryd Rhan, ewch i’r dudalen hon.
Edrychaf ymlaen at eich gweld y flwyddyn nesaf!”